Roedd Syr William Wallace (tua 127023 Awst 1305; Gaeleg yr Alban: Uilleam Uallas) yn ffigwr allweddol yn y gwrthwynebiad Albanaidd i ymgais brenin Lloegr, Edward I, i goncro'r Alban.

William Wallace
Cerflun William Wallace yn Aberdeen (1888)
Ganwyd3 Ebrill 1270 Edit this on Wikidata
Elderslie, Swydd Renfrew Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1305 Edit this on Wikidata
Smithfield Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaetharweinydd milwrol, ymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
SwyddGwarcheidwad yr Alban Edit this on Wikidata
TadMalcolm Wallace Edit this on Wikidata
Mamy Fonesig Margaret Crawford Edit this on Wikidata
PriodMarion Braidfute Edit this on Wikidata

Mae ansicrwydd lle ganed Wallace; yn ôl y traddodiad fe'i ganed yn Elderslie, gerllaw Paisley. Ymddengys ei fod o deulu o'r boneddigion llai; yn ôl traddodiad roedd yn fab i Syr Malcolm Wallace o Elderslie, ond enwir ei dad fel Alan Wallace hefyd. Awgrymwyd fod y cyfenw "Wallace" yn dynodi fod y teulu yn ddisgynyddion aelodau o un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.

Pan fu farw Alexander III, brenin yr Alban yn 1286, dechreuodd cyfnod o ansicrwydd yn yr Alban. Ei aeres oedd ei wyres Margaret, nad oedd ond pedair oed ac yn byw yn Norwy. Bu Margaret farw yn 1290 ar ei ffordd i'r Alban o Norwy. Roedd nifer o bobl yn hawlio'r orsedd ar farwolaeth Margaret, a gofynnwyd i Edward I, brenin Loegr, farnu rhyngddynt. Dewisodd ef John Balliol, a choronwyd ef yn frenin. Fodd bynnag manteisiodd Edward ar y cyfle i ymosod ar yr Alban. Erbyn Gorffennaf 1296 yr oedd wedi goresgyn y wlad, a gorfododd Balliol i ildio'r goron.

Rywbryd tua'r adeg yma, dechreuodd Wallace ei ymgyrchoedd. Lladdodd ef a'i deulu William Heselrig, Siryf Seisnig Lanark, ym mis Mai 1297, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau yn ystod y flwyddyn. Ar 11 Medi 1297, enillodd Wallace fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling, pan geisiodd y cadfridog Seisnig, Iarll Surrey, groesi pont gul. Ymosododd Wallace pan oedd y fyddin Seisnig ar hanner croesi, a bu lladdfa fawr.

Cofgolofn William Wallace yn Stirling

Yn 1298 gorchfygwyd Wallace gan y Saeson ym Mrwydr Falkirk. Llwyddodd Wallace ei hun i ddianc, ond penderfynodd ymddiswyddo fel Gwarcheidwad yr Alban. Ymddengys iddo fynd i Ffrainc tua diwedd 1298 i geisio cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Dychwelodd i'r Alban yn 1303. Roedd yr Alban yn llwyr ym meddiant Edward I, a bu'r Saeson yn ymdrechu'n ddyfal i ddal Wallace. Ar 5 Awst 1305 daliwyd ef trwy frad, a throsglwyddodd John de Menteith ef i ddwylo Edward. Aed ag ef i Lundain a'i roi ar brawf am deyrnfradwriaeth. Ateb Wallace oedd na allai fod yn fradwr i Edward, gan na fu Edward erioed yn frenin arno. Cafwyd ef yn euog, ac ar 22 Awst 1305, dienyddiwyd ef yn Smithfield. Chwarterwyd ei gorff a gyrru'r rhannau i'w harddangos yn Newcastle, Berwick, Stirling, ac Aberdeen, tra gosodwyd ei ben ar bicell ar Bont Llundain.