Windsor Davies

actor a aned yn 1930

Actor o Gymro oedd Windsor Davies (28 Awst 193017 Ionawr 2019)[1] oedd yn fwyaf enwog am chwarae rhan Battery Sergeant Major Williams yn y comedi sefyllfa Brydeinig It Ain't Half Hot Mum (1974–81) a Mog yn y ffilm Grand Slam.

Windsor Davies
Ganwyd28 Awst 1930 Edit this on Wikidata
Canning Town Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 2019 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor, canwr, actor ffilm, actor llwyfan, gweithiwr ffatri, athro, digrifwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Davies yn Canning Town, West Ham, Essex, i rieni Cymreig. Pan oedd yn naw mlwydd oed dychwelodd y teulu i'w ardal brodorol yn Nant-y-Moel pan dorrodd yr Yr Ail Ryfel Byd allan yn 1939. Astudiodd Davies yn Ysgol Ramadeg Cwm Ogwr ac yna Ysgol Hyfforddi Athrawon, Bangor.[1] Gweithiodd fel athro yn Ysgol Mountside i Fechgyn, yn Leek, Swydd Stafford ac fe wnaeth ei wasanaeth milwrol yn Libia a'r Aifft[2] gyda Chatrawd Dwyrain Surrey rhwng 1950-1952 cyn penderfynu dod yn actor.[3]

Gyrfa golygu

Rhan fwyaf adnabyddus Davies oedd fel Battery Sergeant Major Williams yn y comedi sefyllfa It Ain't Half Hot Mum a ddarlledwyd ar y BBC rhwng 1974 a 1981.[1] Ymysg ei ymadroddion enwog oedd "Shut Up!", wedi ei weiddi mewn sgrech filitaraidd ffrwydrol.[4] Ymadrodd arall oedd "Oh dear, how sad, never mind", wedi ei ddweud mewn ffordd sych, eironig, a ddefnyddiwyd pan oedd eraill o'i gwmpas mewn trafferthion. Cafodd Davies a seren arall y sioe Don Estelle record rhif un yn siartiau'r DU gyda'i fersiwn lled-ddigrif o "Whispering Grass" yn 1975.[1]

Roedd rhannau teledu arall yn cynnwys y morwr Taffy yng nghyfres BBC The Onedin Line (1971) a'r deliwr hen greiriau Oliver Smallbridge yn Never the Twain (1981–91), gyda Donald Sinden. Yn myd gwyddonias teledu, ymddangosodd Davies yn stori Doctor Who o 1967 The Evil of the Daleks fel Toby; ac fe oedd llais Sergeant Major Zero (milwr robotaidd sfferigol yn gyfrifol am 100 o robotiaid tebyg) yn Terrahawks, cynhyrchiad Gerry Anderson/Christopher Burr o 1983[1] (adalwad arall i'w amser yn It Ain't Half Hot Mum). Yn 2004, chwaraeodd Davies ran borthor nos yn y comedi sefyllfa BBC My Family (y bennod "Going Dental").

Ar ffilm, chwaraeodd Davies brif rannau mewn dwy ffilm Carry On, Behind (1975) a England (1976) - yn yr ail unwaith eto fel uwch-sarsiant. Chwaraeodd Mog yn y clasur o ffilm Gymreig Grand Slam (1978).

Gwnaeth Davies lawer iawn o waith lleisio mewn hysbysebion, ac roedd ei lais dwfn, nodweddiadol i'w glywed ar amryw hysbysebion: insiwleiddio tŷ yn Seland Newydd, siocled Cadbury Wispa a Ffa Pob Cyri Heinz gyda'i ymadrodd "Beans for the connoisseur". Fe ymddangosodd gyda hyfforddwr rygbi'r undeb Alex Wyllie mewn hysbysebion yn Seland Newydd ar gyfer siopau nwyddau haearn Mitre 10 yn y 1990au cynnar.[5] Yn y 1970au, darllenodd Davies bennod o raglen Morning Story ar Radio Four. Chwaraeodd siarsiant yng Nghatrawd yr Ucheldir yn Adolf Hitler: My Part in His Downfall (1972) gyda Jim Dale a Spike Milligan. Cafodd glyweliad i fod yn llais Cloc Siarad y DU yn 1984.[1]

Lleisiodd llyfr sain ar gyfer fersiwn Ladybird i blant o'r clasur Treasure Island gan Robert Louis Stevenson.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod ag Eluned, a fu farw yn Medi 2018. Wedi ymddeol symudodd y cwpl i fyw yn Ffrainc. Roedd ganddynt bump o blant.[6]

Ffilmyddiaeth golygu

  • The Pot Carriers (1962)[1]
  • Murder Most Foul (1964)
  • The Alphabet Murders (1965)
  • Arabesque (1966)
  • The Family Way (1966)
  • Drop Dead Darling (1966)
  • Hammerhead (1968)
  • Frankenstein Must Be Destroyed (1969)
  • UFO (1970)
  • Clinic Exclusive (1971)
  • Endless Night (1972)
  • Adolf Hitler: My Part in His Downfall (1972)
  • Soft Beds, Hard Battles (1974)
  • It Ain't Half Hot Mum (TV, 1974–81)[1]
  • Mister Quilp (1975)
  • Carry On Behind (1975)[1]
  • Confessions of a Driving Instructor (1976)
  • Not Now, Comrade (1976)
  • Carry On England (1976)[1]
  • The Playbirds (1978)
  • Grand Slam (1978)
  • Terrahawks (1983–86)
  • Gabrielle and the Doodleman (1984)
  • Rupert and the Frog Song (1984)
  • Old Scores (1991)
  • The Princess and the Cobbler (1993)
  • Mosley (1997)
  • Gormenghast (1999)
  • 2point4 Children (1999)
  • Casualty (2000)
  • My Family, yn y bennod "Going Dental" (2004)

Disgyddiaeth golygu

Albymau golygu

  • 1975: Sing Lofty (gyda Don Estelle)
  • 1978: Bless You for Being an Angel (gyda Don Estelle)

Senglau golygu

  • 1975: Whispering Grass
  • 1975: Paper Doll
  • 1976: I Don’t Want to Set the World on Fire
  • 1976: Nagasaki
  • 1978: Java Jive
  • 1979: Cool Water

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu