Winifred Emery

actores a aned yn 1861

Roedd Winifred Emery (1 Awst 1861 - 15 Gorffennaf 1924), a anwyd Maud Isabel Emery, yn actores ac yn actor reolwr Seisnig ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20g. Roedd hi'n wraig i'r actor Cyril Maude.

Winifred Emery
Ganwyd1 Awst 1861 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 1924 Edit this on Wikidata
Bexhill-on-Sea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
TadSamuel Anderson Emery Edit this on Wikidata
PriodCyril Maude Edit this on Wikidata
PlantMargery Maude, Pamela Cynthia Maude, John Maude Edit this on Wikidata

Wedi'i eni i deulu o actorion, dechreuodd Emery actio fel plentyn.[1] Tyfodd ei gyrfa trwy'r 1880au a'r 1890au wrth iddi chwarae rolau blaenllaw yn y West End yn Llundain. Ar ôl cyfnod i ffwrdd o'r llwyfan, dychwelodd gyda rolau blaenllaw yng nghwmni Herbert Beerbohm Tree yn Theatr Ei Fawrhydi. Parhaodd i actio'n gyson gyda'i chwmni theatr deithiol ei hun a'i gŵr ac yn theatrau Llundain hyd 1922.

Bywyd a gyrfa gynnar golygu

Ganed Emery ym Manceinion, Sir Gaerhirfryn, yn ferch i Samuel Anderson Emery ac yn wyres i John Emery, y ddau yn actorion adnabyddus yn eu dydd. Ymddangosodd ar y llwyfan am y tro cyntaf ym 1870, yn 8 oed, yn The Green Bushes gan J B Buckstone yn Theatr Alexandra, Lerpwl . Roedd ei hymddangosiad cyntaf yn Llundain ar 23 Rhagfyr 1874 pan chwaraeodd y cymeriad Happy New Year yn y pantomeim Beauty and the Beast [2] yn Theatr y Dywysoges, Llundain. Ym 1879 ymunodd â chwmni Marie Litton cyn ymddangos gyda Wilson Barrett yn Grand Theatre, Leeds. Symudodd gyda Barrett i'r Court Theater yn Llundain ym mis Hydref 1879.[3] Yno, sylwodd y beirniaid arni gyntaf pan ymddangosodd yn y ddrama un act A Clerical Error .[4]

Ymddangosodd Emery yn A Bridal Tour yn Theatr yr Haymarket ym mis Awst 1880, a pherfformiodd yn Theatr St James gyda Syr John Hare, William Hunter Kendal a Madge Kendal. Ym mis Gorffennaf 1881 ymunodd â chwmni Henry Irving yn Theatr y Lyceum, ac yno ymddangosodd yn The Bells a The Merchant of Venice. Yn ddiweddarach, chwaraeodd yn Toole's Theatre ac yn y Theatr Vaudeville gyda Thomas Thorne yn The Rivals. Ym 1884 daeth yn ddirprwy actores i Ellen Terry yn Theatr y Lyceum a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau gyda Henry Irving, gan chwarae yn Twelfth Night, Much Ado About Nothing a The Merchant of Venice . Hefyd i Irving, ym mis Hydref 1885 chwaraeodd Emery rôl y teitl yn Olivia gan WG Wills, a theithiodd yr Unol Daleithiau eto ym 1887-8.[3]

Priododd Emery â'r actor Cyril Maude [5] ar 28 Ebrill 1888 yn Swyddfa Gofrestru Kensington, a chawsant seremoni briodas arall yng Nghapel y Savoy ar 2 Mehefin 1888.[6] Ymddangosodd nesaf yn Theatr y Vaudeville ac, ar gyfer Augustus Harris, yn y Theatre y Royal, Drury Lane. Gan ddychwelyd i Theatr y Vaudeville ym mis Chwefror 1890, chwaraeodd y rôl deitl yn Clarissa, wedi'i haddasu gan Robert Williams Buchanan o'r nofel gan Samuel Richardson.[7] Yn yr un flwyddyn, ac yn yr un theatr, chwaraeodd rolau blaenllaw yn The School for Scandal a She Stoops to Conquer, ymhlith eraill.[3] Roedd hi'n serennu yn Judah gan Henry Arthur Jones yn Theatr Shaftesbury ym mis Medi 1890 cyn ymddangos yn y Theatr Olympaidd gyda Wilson Barrett ym mis Rhagfyr 1890.

Ym mis Mai 1891 gwelwyd Emery yn ôl yn Theatr Shaftesbury, ac ym mis Chwefror 1892 cymerodd y rôl deitl yng nghynhyrchiad gwreiddiol Lady Windermere's Fan gan Oscar Wilde yn Theatr St James. Rhwng 1893 a 1895 chwaraeodd Emery y prif rolau benywaidd i J. Comyns Carr yn y Theatr Gomedi, lle ymddangosodd yn The New Woman a Sowing the Wind gan Grundy a The Benefit of the Doubt gan Pinero. Cymaint oedd ei enwogrwydd erbyn hyn fel y tynnwyd ei phortread gan Aubrey Beardsley, gan ymddangos yn rhifyn Ionawr 1895 o The Yellow Book. Ym mis Chwefror 1896 ymddangosodd yn Theatr Lyceum dan reolaeth Syr Johnston Forbes-Robertson.[3]

Blynyddoedd diweddarach golygu

Ym 1896 daeth ei gŵr yn actor reolwr Theatr yr Haymarket, ac aeth Emery gydag ef, gan ddod yn brif actores iddo. Fodd bynnag, oherwydd cyfnod o salwch a genedigaeth ei mab, gwnaeth un ymddangosiad yn unig yno rhwng 1898 a 1905, yn The Second in Command, gan Robert Marshall, ym mis Gorffennaf 1901. Gwnaeth ei 'dychweliad' theatraidd ym mis Chwefror 1905, pan chwaraeodd Beatrice yn Much Ado about Nothing gyferbyn â Herbert Beerbohm Tree yn Theatr Ei Mawrhydi . Ym mis Ionawr 1906 ymddangosodd yn Theatr yr Waldorf fel Mrs Pellender yn The Superior Miss Pellender. Ffurfiodd Emery ei chwmni theat ei hun a chyda hi aeth hi a'i gŵr ar daith i theatrau taleithiol, y ddau ohonyn nhw'n serennu yn Olivia and Her Son gan Horace Annesley Vachell. Trosglwyddodd y ddrama hon i Theatr y Playhouse, oedd dan reolaeth Cyril Maude, ym mis Mawrth 1907.[3]

Rhwng 1907 a 1922 chwaraeodd Emery rolau blaenllaw mewn nifer o gynyrchiadau yn theatrau'r West End, gan gynnwys Theatr y Playhouse gyda'i gŵr. Chwaraeodd ran yn The Merry Wives of Windsor yn Theatr Ei Fawrhydi yn; The Bunking of Betty yn Drury Lane; Caste gan TW Robertson yn Theatr St James; Syr Walter Ralegh yn Theatr y Lyric; The Schoolmistress gan Pinero yn y Theatr Vaudeville; Never Say Die gan WH Post yn Theatr yr Apollo. Ym mis Mai 1911 gwnaeth Perfformiad Gorchymyn Brenhinol yn Drury Lane o flaen Wilhelm II, ac mewn Perfformiad Gala Coroni i'r brenin newydd Siôr V, a gynhaliwyd yn Theatr Ei Fawrhydi ar 27 Mehefin 1911, chwaraeodd Elisabeth I yn The Critic gan Sheridan, a gyfarwyddwyd gan Syr Squire Bancroft .[3] Roedd ei pherfformiad olaf yn Theatr Ei Fawrhydi ar 26 Chwefror 1923 mewn cynhyrchiad elusennol o The Ballad Monger.

Marwolaeth golygu

Bu farw Emery o ganser y stumog yn ei chartref yn Bexhill-on-Sea Sussex, yn 62 oed, a chladdwyd hi yn Eglwys Sant Marc yn Bexhill.

Teulu golygu

Ymhlith ei phlant gyda Maude roedd Margery Maude, a ddaeth yn actores;[2] Pamela Cynthia Maude (1893-1975); a John Cyril Maude,[8] a ddaeth yn fargyfreithiwr, barnwr ac Aelod Seneddol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "APPEARANCEOFAFAVOURITEACTRESS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1905-02-04. Cyrchwyd 2020-07-01.
  2. 2.0 2.1 The Stage Beauty - Winifred Emery (1862-1924) adalwyd 1 Gorffennaf 2020
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Emery, Winifred (1861–1924), actress. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020
  4. Cyfweliad yn The Sketch, 7 Rhagfyr 1911
  5. Maude, Cyril Francis (1862–1951), actor and theatre manager. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020
  6. "ATHEATRICALMARRIAGEII - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-06-04. Cyrchwyd 2020-07-01.
  7. Clarissa, The Times, 7 Chwefror 1890
  8. Maude, His Honour John Cyril, (3 April 1901–16 Aug. 1986), QC 1942. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Adalwyd 1 Gorffennaf 2020