Winnie Parry

awdures, a golygydd

Awdur Cymraeg oedd Sarah Winifred Parry (20 Mai 187012 Chwefror 1953) sydd fwyaf adnabyddus am ddatblygu'r stori fer Gymraeg modern. Daeth yn enw cyfarwydd gyda'i ffuglen a gyhoeddwyd mewn penodau mewn cyfnodolion ar droad yr 20g. Cafodd ei gwaith mwyaf enwog, Sioned, a gyhoeddwyd yn gyntaf fel cyfres rhwng 1894 a 1896 ei gyhoeddi fel nofel ym 1906 a chafodd ei ailgyhoeddi yn 1988 a 2003.[1]

Winnie Parry
Ganwyd20 Mai 1870 Edit this on Wikidata
Y Trallwng Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1953 Edit this on Wikidata
Croydon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, golygydd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Winnie Parry yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn ferch i Hugh Thomas Parry, arolygydd yswiriant  a Margaret (née Roberts). Roedd Margaret Parry yn sgwennu barddoniaeth ar y mesurau caeth o dan y ffug enw "Gwenfron".[2]

Yn fuan ar ôl ei genedigaeth Winnie, symudodd y teulu i Lanfair-is-gaer ger y Felinheli lle maent i’w gweld ar gyfrifiad 1871[3] yn byw yn nhŷ rhieni Margaret Parry sef John ac Elen Roberts. Symudodd y teulu o’r Felinheli i Croydon lle fu farw Margaret ym 1876 yn 36 mlwydd oed. Dychwelodd Winnie i fyw gyda'i nain a’i thaid yn y Felinheli, gan gael ei gwahanu rhag ei thad ei brawd a’i thair chwaer. Ail briododd ei thad a symudodd ef a gweddill y teulu i Dde’r Affrig gan adael Winnie yn y Felinheli.

Does dim tystiolaeth wedi goroesi i brofi bod Winnie wedi derbyn unrhyw addysg ffurfiol ond gan ei bod hi wedi geni ar ôl pasio Deddf Addysg Elfennol 1870[4] mae’n debyg y byddai wedi derbyn addysg orfodol hyd 13 oed. Gan fod Winnie yn ffrind gydol oes i ferch prifathro Ysgol Genedlaethol y Felinheli mae’n debyg mae’r ysgol honno bu hi’n mynychu.

Ar farwolaeth ei thaid ym 1903 symudodd i fyw gyda’i hewyrth hewythr Owen Parry, gweinidog  Calfinaidd, Cemaes, Ynys Môn. Pan ddychwelodd ei thad o Dde’r Affrig ym 1908 symudodd Winnie’n ôl i Croydon ato ef, ac yn Croydon bu’n fyw am weddill ei hoes.

Gyrfa lenyddol golygu

O dan anogaeth O. M. Edwards ac Edward Ffoulks, dechreuodd gyfrannu i gylchgronau Cymru, Cymru’r Plant a’r Cymro.   Cafodd ei nofel fwyaf adnabyddus, Sioned, ei gyhoeddi gyntaf mewn penodau yn y cylchgrawn Cymru rhwng 1894 a 1896.[5]

Ym 1896, ysgrifennodd gyfres o'r enw Catrin Prisiard a ymddangosodd yn Y Cymro a gyhoeddwyd hefyd yn The Cambrian a Chymru. Yn ystod ei chyfnod mwyaf toreithiog, daeth Winnie Parry yn enw cyfarwydd yng Nghymru oherwydd poblogrwydd ei ffuglen a’i herthyglau. Erbyn troad yr 20g roedd Parry yn awdur benywaidd mwyaf nodedig y stori fer a oedd yn adlewyrchu bywyd bob dydd yng Nghymru mewn araith lafar, a thrwy hynny daeth yn ddylanwad mawr ar awduron benywaidd diweddarach megis Moelona a Kate Roberts.[6]

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ceisiodd E. Morgan Humphreys ei pherswadio i ailgyhoeddi Sioned a cheisiodd y BBC addasu peth o’i gwaith ar gyfer Awr y Plant

Gyrfa golygu

Bu’n gweithio fel golygydd Cymru’r Plant rhwng 1908 a 1912[7] wedi hynny bu’n gweithio fel ysgrifennydd i gwmni peirianneg. Rhwng 1922 a 1928, bu’n gwasanaethu fel ysgrifennydd i Syr Robert Thomas, AS Ynys Môn.

Marwolaeth golygu

Bu farw mewn cartref henoed yn Croydon yn 82 mlwydd oed ac yn Croydon claddwyd ei gweddillion.

Llyfryddiaeth golygu

 
Wynebddalen Cerrig y Rhyd
  • Parry, Winnie (1906). Sioned: darluniau o fywyd gwledig yng Nghymru. Caernarfon: Cwmni y cyhoeddwyr Cymreig. OCLC 48516434.
  • Parry, Winnie (1907). Cerrig y Rhyd. Caernarfon: Cwmni y cyhoeddwyr Cymreig. OCLC 563641432.
  • Parry, Winnie (1928). Y ddau hogyn rheiny. Llundain: Foyle's Welsh Depot. OCLC 52723140.

Cyfeiriadau golygu

  1. "PARRY, SARAH WINIFRED ('Winnie Parry'; 1870-1953)"
  2. Jane Aaron, Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (University of Wales Press, 2010). ISBN 978-0-7083-2287-1
  3. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1871, Fron Deg Terrace, Llanfairisgaer, Carnarvon, Caernarvonshire, Wales Cyf:RG10/5715, Ffolio 18, Tudalen 15
  4. Elementary Education Act 1870
  5. "Notitle - Merthyr Times and Dowlais Times and Aberdare Echo". [Merthyr Times Printing Co.] 1895-06-20. Cyrchwyd 2017-03-18.
  6. Koch, John T. (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia. I: A-Celti. Santa Barbara, California: ABC-CLIO. ISBN 978-1-85109-440-0.CS1 maint: ref=harv (link)
  7. "GOLYGYDDES NEWYDD - Gwalia". Robert Williams. 1907-12-31. Cyrchwyd 2017-03-18.