Worms

tref yn Rheinland-Pfalz, yr Almaen

Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yn yr Almaen yw Worms. Saif ar Afon Rhein rhwng Ludwigshafen a Mainz, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 85,829.

Worms
Mathdinas Luther, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Rhineland-Palatinate, Q1984641 Edit this on Wikidata
Poblogaeth84,646 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethAdolf Kessel Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Tiberias, Auxerre, Mobile, Alabama, Parma, St Albans, Bautzen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRheinland-Pfalz Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd108.73 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr100 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhein Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlzey-Worms, Bad Dürkheim (district), Rhein-Pfalz, Landkreis Bergstraße Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.6319°N 8.3653°E Edit this on Wikidata
Cod post67547, 67549, 67550, 67551 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAdolf Kessel Edit this on Wikidata
Map
Eglwys Gadeiriol Worms

Sefydlwyd Worms gan y Celtiaid dan yr enw Borbetomagus, a roddodd yr enw Lladin Vormatia. Ceir dadlau yn yr Almaen rhwng Worms, Cwlen a Trier pa un yw dinas hynaf y wlad.

Worms yw safle llawer o stori cerdd Almaeneg ganoloesol y Nibelungenlied, ac agorwyd amgueddfa y Nibelungenmuseum yma yn 2001. Mae'r eglwys gadeiriol hefyd yn nodedig. Yn Worms y cynhaliwyd Reichstag 1521 pan gyhoeddwyd Martin Luther yn herwr wedi iddo wrthod gwadu ei gredoau crefyddol.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.