Wynne Evans

tenor Cymreig

Canwr opera Cymreig yw Wynne Evans, BEM (ganwyd 27 Ionawr 1972).

Wynne Evans
Ganwyd27 Ionawr 1972 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, actor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
PriodTanwen Evans Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.wynneevans.co.uk/ Edit this on Wikidata

Fe'i anwyd yng Nghaerfyrddin, yn fab Elizabeth Evans MBE (sylfaenydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin). Mae James Wynne Evans yn denor cymreig a chymraeg. Daeth yn enwog iawn yn chwarae Gio Compario i hysbysebion teledu cwmni Gocompare.com .Yn ddiweddar cymerodd rôl Ubaldo Piangi yn The Phantom of the Opera. Canodd ripost i Haka y Crysau Duon yn 2004, drwy ganu 'Cwm Rhondda'. Canodd yn dros 30 o gemau rhyngwladol Cymru.

Astudiodd yn y Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall ac yn y National Opera Studio. Mae ganddo berthynas agos ag Opera Cenedlaethol Cymru lle mae ei roliau yn cynnwys: Nemorino yn L'elisir d'amore, Cassio yn Otello (S4C), Y Dug yn Rigoletto, Rodolfo yn La Bohème, Pedrillo yn Die Entführung aus dem Serail, Tamino yn Die Zauberflöte, Alfredo yn La Traviata, Jaquino yn Leonore (BBC), y Schoolmaster yn The Cunning Little Vixen, y Chevalier yn Les Dialogues des Carmelites, y Tenor Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, yr Iddew Cyntaf yn Salome (S4C a BBC), Liberto yn L'incoronazione di Poppea, Brighella yn Ariadne auf Naxos ac Alfred yn Die Fledermaus.

Yn 2011 canodd am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol wrth ganu Vakula gan Cherevichki ac wedyn yr opera modern gan Mark-Anthony Turnage, Anna Nicole yng Covent Garden. Efo Opera de Lyon fe ganodd Gianni Schicchi, Il Tabarro yn The Cunning Little Vixen. Dros Opera Cenedlaethol Lloegr mae Evans wedi canu Alfredo yn La Traviata, Spoletta a Cavaradossi yn Tosca, ac yr Ail Iddew yn Salome. Am Opera North chwaraeodd rôl Fenton yn Falstaff, Prunier yn La Rondine a Paulino yn The Secret Marriage. I gwmni Opera yr Alban canodd Tamino yn Die Zauberflöte ac y the Italian Tenor yn Der Rosenkavalier. Am Grange Park Opera perfformiodd Trufaldino yn The Love for Three Oranges a'r Tenor Eidalaidd yn The Cunning Little Vixen ac Harry yn La Fanciulla del West. Ymhlith eraill canodd efo Classical Opera Company Fracasso yn La Finta Semplice; Orpheus yn Orpheus in the Underworld i Opera Holland Park ac y Paun yn opera Param Vir y Broken Strings.

Yn 2022 derbyniodd y BEM am "wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol a Darlledu".[1]

Albymau golygu

  • With a Song in My Heart (2011)
  • Wynne (2013)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. "Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured". WalesOnline (yn Saesneg). 2 Mehefin 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.