Y Berwyn

cadwyn mynyddoedd

Cadwyn hir o fryniau sy'n rhedeg rhwng Bwlch y Groes, ger Aran Benllyn, i gyffiniau Corwen a Llangollen yw'r Berwyn. Mae'n ffurfio ffin naturiol rhwng Edeirnion, neu Penllyn (dwyrain Meirionnydd, Gwynedd) a Maldwyn, Powys. Ei bwynt uchaf yw Moel Sych (2,713').

Y Berwyn
Edrych i gyfeiriad Cadair Berwyn o ben Cadair Bronwen yn y Berwyn
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9211°N 3.4239°W, 52.838821°N 3.606825°W, 52.8667°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Geirdarddiad golygu

Mae'n bosibl fod yr enw yn golygu "Bryn(iau) Gwyn (ap Nudd)" (Cymraeg Cynnar bre 'hill' yn troi'n ber + Gwyn), yn ôl T. Gwynn Jones ac eraill, ac felly'n dwyn enw Gwyn ap Nudd, brenin Y Tylwyth Teg.[1]

Disgrifiad golygu

 
Cadair Berwyn a Llyn Lluncaws

Yn y gorllewin mae'r Berwyn yn dechrau ger Bwlch y Groes, hanner ffordd rhwng pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy a phentref Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid. Mae'r gadwyn yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am o gwmpas pymtheg milltir. Y copa cyntaf yw Foel y Geifr, sy'n edrych i lawr ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy a bryniau Powys Fadog. Mae dwy lôn fynydd yn croesi'r ucheldir undonog rhwng y copa hwnnw a Chadair Berwyn (2230'), y gyntaf yn cysylltu Abertridwr ar lan Efyrnwy â'r Bala a'r llall yn mynd o'r Bala i Langynog ac ymlaen i'r Trallwng.

Gorwedd y rhan uchaf o'r Berwyn rhwng Bwlch y Filltir Gerrig ar y lôn olaf honno a Glyndyfrdwy. Mae'r copaon, sydd ddim yn greigiog, yn cynnwys Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych (2713'), Cadair Fronwen (2572'), Pen-plaenau (1775') a Moel Fferna (2071'). Daw'r Berwyn ei hun i ben uwchlaw Nantyr yng Nglyndyfrdwy, rhwng Corwen a Llangollen.

Nid yw'n gadwyn greigiog, er bod ambell glogwyn, ond yn hytrach mae'n gyfres o foelau agored, grugog iawn, sy'n lle da i adar y mynydd, fel y Cwtiad Aur. Y gadwyn debygach iddi yng Nghymru yw'r Carneddau yng ngogledd Eryri, ond bod y Berwyn yn is a llai syrth.

Ar odrau dwyreiniol y Berwyn ceir sawl llecyn braf diarffordd, fel Llyn Efyrnwy, Pennant Melangell a'i eglwys hynafol, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pistyll Rhaeadr a Dyffryn Ceiriog. I'r gogledd mae llethrau coediog Coedwig Penllyn, y Bala a Llyn Tegid, Dyffryn Edeirnion a Chorwen.

Bywyd gwyllt golygu

Mae'r ardal yn gartref i sawl rhywogaeth o adar yr ucheldir, gan gynnwys adar ysglyfaeth fel y Boda tinwyn (Circus cyaneus), y Llamsydyn (Falco columbarius), a'r Hebog tramor (Falco peregrinus) (tua 14-18 o bariau bridiau yn achos pob un o'r rhywogaethau hyn, 1-2% o'r cyfanswm poblogaeth yng ngwledydd Prydain), ac felly'n Ardal Warchod Arbennig. Mae bywyd gwyllt arall yn cynnwys tylluanod clustiog, cigfrain, bodaon, ffwlbartiaid a'r plufynnau aur.

Copaon golygu

 
Lleoliad
Mynyddoedd y Berwyn
Enw Cyfesurynnau OS Cyfesurynnau Daearyddol
Allt y Gader: SJ149176  map  52.749°N, 3.262°W
Allt y Main: SJ162151  map  52.727°N, 3.242°W
Bryn Du (Y Fawnen): SJ145360  map  52.914°N, 3.272°W
Bryn Gwyn (mynydd): SJ042295  map  52.854°N, 3.424°W
Bryn-llus: SJ085408  map  52.956°N, 3.363°W
Cadair Berwyn: SJ071323  map  52.88°N, 3.381°W
Cadair Berwyn (copa gogleddol): SJ072327  map  52.883°N, 3.38°W
Cadair Bronwen: SJ077346  map  52.9°N, 3.373°W
Cadair Bronwen (copa gogledd-ddwyrain): SJ087352  map  52.906°N, 3.358°W
Carnedd Das Eithin: SJ051238  map  52.803°N, 3.409°W
Cefn Coch: SH923266  map  52.826°N, 3.599°W
Cefn Gwyntog: SH976265  map  52.826°N, 3.521°W
Cefn Gwyntog (copa gogleddol): SH975274  map  52.834°N, 3.522°W
Cerrig Coediog: SJ113386  map  52.937°N, 3.321°W
Craig Berwyn: SJ077335  map  52.891°N, 3.373°W
Craig Rhiwarth: SJ054271  map  52.833°N, 3.405°W
Croes y Forwyn: SJ029210  map  52.777°N, 3.44°W
Cyrniau: SJ062251  map  52.815°N, 3.393°W
Cyrniau Nod: SH988279  map  52.839°N, 3.503°W
Cyrniau y Llyn: SJ000244  map  52.807°N, 3.484°W
Ffordd Gefn (Bryn Gwyn): SJ033240  map  52.804°N, 3.435°W
Foel Cwm Sian Llwyd: SH995313  map  52.869°N, 3.494°W
Foel Dugoed, SH893131  map  52.704°N, 3.639°W
Foel Figenau: SH916284  map  52.842°N, 3.61°W
Foel Goch (Berwyn): SH943290  map  52.848°N, 3.57°W
Foel Tyn-y-fron: SH918257  map  52.817°N, 3.606°W
Foel Wen: SJ099333  map  52.889°N, 3.34°W
Foel Wen (copa deheuol): SJ102330  map  52.886°N, 3.336°W
Foel y Geifr: SH937275  map  52.834°N, 3.579°W
Gallt y Goedhwch: SJ137159  map  52.733°N, 3.279°W
Glan Hafon: SJ080272  map  52.834°N, 3.367°W
Godor: SJ094307  map  52.866°N, 3.347°W
Godor (copa gogleddol): SJ089311  map  52.869°N, 3.354°W
Gyrn Moelfre: SJ184293  map  52.854°N, 3.213°W
Jericho Hill: SJ162202  map  52.772°N, 3.243°W
Mynydd Llanymynech: SJ263221  map  52.791°N, 3.094°W
Lledwyn Mawr: SH905287  map  52.844°N, 3.627°W
Moel Bentyrch, SJ055095  map  52.674°N, 3.399°W
Moel Cae-howel: SH978330  map  52.884°N, 3.52°W
Moel Fferna: SJ116397  map  52.947°N, 3.317°W
Moel Hen-fache: SJ109281  map  52.843°N, 3.324°W
Moel Poethion: SJ082306  map  52.865°N, 3.365°W
Moel Sych: SJ066318  map  52.875°N, 3.389°W
Moel y Fronllwyd: SJ121176  map  52.748°N, 3.303°W
Moel y Gwelltyn: SJ170277  map  52.84°N, 3.233°W
Moel yr Ewig: SJ080317  map  52.874°N, 3.368°W
Moel yr Henfaes: SJ077385  map  52.935°N, 3.374°W
Moel yr Henfaes (Copa Pen Bwlch Llandrillo): SJ089369  map  52.921°N, 3.356°W
Moel yr Henfaes (copa gorllewinol): SJ099374  map  52.926°N, 3.341°W
Mynydd Mawr: SJ132286  map  52.847°N, 3.29°W
Mynydd Mynyllod: SJ002395  map  52.943°N, 3.486°W
Mynydd Tarw: SJ112324  map  52.881°N, 3.321°W
Mynydd y Bryn: SJ217268  map  52.833°N, 3.163°W
Mynydd y Glyn: SJ153222  map  52.79°N, 3.257°W
Mynydd-y-briw: SJ174260  map  52.825°N, 3.227°W
Pen y Berth, SJ081127  map  52.704°N, 3.361°W
Pen y Boncyn Trefeilw: SH962283  map  52.842°N, 3.542°W
Pen y Cerrig Duon: SH953281  map  52.84°N, 3.555°W
Pen-y-coed: SJ226414  map  52.964°N, 3.153°W
Post Gwyn: SJ048293  map  52.852°N, 3.415°W
Rhialgwm: SJ055211  map  52.779°N, 3.402°W
Rhiwaedog-uwch-afon: SH938313  map  52.868°N, 3.579°W
Rhos (Llanarmon Dyffryn Ceiriog): SJ125323  map  52.881°N, 3.301°W
Rhwng y Ddwynant: SH978248  map  52.811°N, 3.517°W
Stac Rhos: SH969279  map  52.838°N, 3.532°W
Tir Rhiwiog: SH929162  map  52.732°N, 3.587°W
Tomle: SJ085335  map  52.891°N, 3.361°W
Trum y Gwragedd: SH941284  map  52.842°N, 3.573°W
Mynydd Feifod: SJ169400  map  52.95°N, 3.238°W
Y Golfa: SJ182070  map  52.654°N, 3.21°W
Y Groes Fagl: SH988290  map  52.848°N, 3.504°W
Yr Allt: SJ242102  map  52.684°N, 3.122°W
Bryn yr Orsedd SJ142485  map  53.026°N, 3.28°W
Cyrn-y-Brain SJ208488  map  53.03°N, 3.182°W
Mynydd Eglwyseg SJ231464  map  53.009°N, 3.147°W
Fron Fawr SJ208450  map  52.996°N, 3.181°W
Moel Morfydd (Mynydd Llantysilio) SJ159457  map  53.001°N, 3.254°W
Moel Tan y Coed SJ200439  map  52.986°N, 3.193°W
Moel y Faen (Mynydd Llantysilio) SJ185475  map  53.018°N, 3.216°W
Moel y Gaer, Llandysilio SJ166463  map  53.007°N, 3.244°W
Moel y Gamelin SJ176465  map  53.009°N, 3.229°W

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930; arg. new. 1979). Ceir sawl enw lle arall sy'n cynnwys yr elfen 'Gwyn' yn yr ardal.

Darllen pellach golygu

  • T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llandybie, 1954)
  • F. Wynn Jones, Godre'r Berwyn (Caerdydd: Hughes a'i Fab, d.d. = c.1952). Atgofion brodor o Ddyffryn Edeirnion.
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybie, 1965). Pennod ar y Berwyn.