Y Bregeth ar y Mynydd

Casgliad o ddywediadau a athrawiaeth Iesu Grist sy'n pwysleisio ei ddysgeidiaeth foesol yw'r Bregeth ar y Mynydd. Mae i'w chanfod yn yr Efengyl yn ôl Mathew (penodau 5, 6, a 7).[1][2] Dyma'r cyntaf o Bum Disgwrs Mathew ac mae'n ymddangos yn gymharol gynnar yng Ngweinidogaeth Iesu, yn dilyn ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr, ei ympryd a'i fyfyrdod yn yr anialwch, ac wedi iddo ddechrau pregethu yng Ngalilea.

Y Bregeth ar y Mynydd
Enghraifft o'r canlynolPregeth Edit this on Wikidata
AwdurIesu Edit this on Wikidata
Rhan ostori'r Iesu yn y Testament Newydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Gwynfydau, Gweddi'r Arglwydd, Parable of the Wise and the Foolish Builders Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun o'r Bregeth ar y Mynydd by Carl Bloch

Y Bregeth yw disgwrs di-dor hiraf Iesu yn y Testament Newydd, ac un o'r elfennau sy'n cael ei dyfynnu fwyaf o'r Efengylau.[3] Mae'n cynnwys rhai o ddysgeidiaethau mwyaf adnabyddus Iesu, fel y Gwynfydau a Gweddi'r Arglwydd. Mae'r Bregeth ar y Mynydd yn cael ei hystyried fel un sydd yn cynnwys yr elfennau creiddiol o fod yn ddisgybl i Grist.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sermon on the Mount." Cross, F. L., ed. The Oxford dictionary of The Christian church. New York: Oxford University Press. 2005
  2. Baasland, Ernst (2015). Parables and Rhetoric in the Sermon on the Mount: New Approaches to a Classic Text. Mohr Siebeck, Tubingen, Germany.
  3. 3.0 3.1 The Sermon on the mount: a theological investigation by Carl G. Vaught 2001 ISBN 978-0-918954-76-3 pages xi–xiv
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.