Y Brifysgol Agored

Prifysgol yn y Deyrnas Unedig gyda pholisi agored o dderbyn myfyrwyr yw'r Brifysgol Agored (Saesneg: Open University; OU). Cynhelir y cyrsiau yn bennaf drwy ddulliau dysgu o bell. Sefydlwyd y Brifysgol Agored ym 1971 a lleolir ei phencadlys ym Milton Keynes, Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr. Y Brifysgol Agored yw Prifysgol fwyaf y Deyrnas Unedig gyda dros 250,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru.

Mae ganddo swyddfa yng Nghymru, a Chyfarwyddwr Cymru y Brifysgol Agored yw'r hanesydd Rob Humphreys.

Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.