Rhanbarth yng ngogledd a dwyrain Lloegr oedd dan ddylanwad deddf y Daniaid oedd y Ddaenfro.[1] Y gyfraith Eingl-Sacsonaidd a'r gyfraith Mersiaidd oedd y rhanbarthau eraill yn Lloegr y cyfnod. Roedd tiriogaeth y Ddaenfro'n cyfateb mwy neu lai i 14 o swyddi: Efrog, Nottingham, Derby, Lincoln, Essex, Caergrawnt, Suffolk, Norfolk, Northampton, Huntingdon, Bedford, Hertford, Middlesex a Buckingham.[2][3][4]

Y Ddaenfro
Enghraifft o'r canlynolendid tiriogaethol Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
'Lloegr' yn 878

Tarddodd y Ddaenfro o oresgyniadau'r Llychlynwyr yn y 9g. Ffurfiodd y system gyfreithiol yn sgil cytundebau rhwng Alffred Fawr, brenin Wessex, a'r cateyrn Danaidd Guthrum wedi Brwydr Edington yn 878. Diffiniwyd ffiniau'r teyrnasoedd yn 886 i gadw'r heddwch rhwng y Saeson a'r Llychlynwyr. Sefydlodd y brenhinoedd Llychlynaidd lys Norseg yn Efrog, ond roedd y werin Seisnig a Danaidd yn siarad tafodieithoedd Eingl-Norseg.[5] Llwyddodd brenhinoedd Wessex i ennill penarglwyddiaeth dros diriogaethau'r Ddaenfro yn y 10g, ond goroesodd deddfau a thraddodiadau Danaidd hyd y goresgyniad Normanaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [Danelaw].
  2. K. Holman, The Northern Conquest: Vikings in Britain and Ireland, p. 157
  3. S. Thomason, T. Kaufman, Language Contact, Creolisation and Genetic Linguistics, p. 362
  4. The Blackwell Encyclopedia of Anglo-Saxon England, ed. Michael Lapidge (2008), p. 136
  5. "Danelaw Heritage". The Viking Network. Cyrchwyd 25 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)