Y Dydd Olaf (albwm)

albwm gan Gwenno Saunders

Albwm cyntaf y gantores Gwenno yw Y Dydd Olaf. Rhyddhawyd yr albwm yn Nhachwedd 2014 ar y label Recordiau Peski.

Y Dydd Olaf
Clawr Y Dydd Olaf
Albwm stiwdio gan Gwenno
Rhyddhawyd Tachwedd 2014
Label Recordiau Peski, Recordiau Heavenly
Cronoleg Gwenno
Y Dydd Olaf
(2014)
Le Kov
(2018)
Erthygl am gasgliad o ganeuon gan Gwenno Saunders yw hon, am y nofel wyddonias gan Owain Owain, gweler yma.

Yn dilyn casgliad o EPs dros y ddwy flynedd flaenorol, cafodd albwm cyntaf y frenhines electro-pop ei ryddhau ar ddiwedd 2014. Record gysyniadol wedi’i hysbrydoli gan nofel ffuglen wyddonol Owain Owain, sy’n rhannu enw’r albwm, a ryddhawyd ym 1976. Mae’n record wyddonol, mae’n record alluog, ac mae’n record sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg.

Dewiswyd Y Dydd Olaf yn un o ddeg albwm gorau 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Murlun o Gwenno Saunders a'r Dydd Olaf; Stryd Womanby, Caerdydd; 2017.

Canmoliaeth golygu

Mae Y Dydd Olaf yn gasgliad o ganeuon sy’n ymddangos, ar yr wyneb efallai, yn bop synthetig, ond tu mewn i’r haenau cymhleth y mae pwll o emosiynau a syniadau dwfn

—Lois Gwenllian, Y Selar

Traciau golygu

  1. Chwyldro - 5:18
  2. Patriarchaeth - 3:29
  3. Calon Peiriant - 5:08
  4. Sisial Y Môr - 5:41
  5. Dawns Y Blaned Dirion - 1:30
  6. Golau Arall - 3:31
  7. Stwff - 4:59
  8. Y Dydd Olaf - 4:15
  9. Fratolish Hiang Perpeshki - 4:37
  10. Amser - 4:44 (yn Cernyweg)

Cyfeiriadau golygu