Y Dyn ar Omnibws Clapham

Mae'r Dyn ar Omnibws Clapham yn berson rhesymol damcaniaethol, a ddefnyddir gan y Llysoedd yng Nghyfraith Lloegr a Chymru lle mae angen penderfynu a yw parti mewn achos wedi gweithredu fel person rhesymol - er enghraifft, mewn achos sifil am esgeulustod. Cyfieithiad ydyw'r term, a gwell efallai fyddai defnyddio'r term a fabwysiadwyd (mae'n debyg) gan y Cyn-Archdderwydd, Dr Robyn Léwis, sef Y dyn ar y bws i'r Bala.

Y Dyn ar yr Omnibws golygu

Mae'r Dyn ar Omnibws Clapham yn berson rhesymol, addysgedig, deallus a chyffredinol, yr hwn y gall ymddygiad y diffynnydd cael ei fesur yn ei herbyn, mewn achos llys.

Daw'r gair Omnibws o air Lladin sy'n golygu at ddefnydd pawb. Cerbyd at ddefnydd pawb oedd cerbydau omnibws y 19g, fel y mae eu disgynyddion Y Bysiau bellach.

Hanes Gyfreithiol golygu

Cafodd y cysyniad ei ddefnyddio mewn dyfarniad gan yr Arglwydd Ustus Greer yn achos Hall v. Brooklands Auto-Racing Club (1933) [1] i ddiffinio'r safon o ofal y mae'n rhaid i ddiffynnydd cyflenwi, er mwyn osgoi cael ei ddyfarnu'n esgeulus. Dyma'r defnydd sy'n cael ei ddefnyddio fel Blaenoriaeth (Precedence) ym myd y gyfraith hyd heddiw.

Mae yna ansicrwydd pa bryd y cafodd yr ymadrodd ei ddefnyddio gyntaf at iws cyfreithiol. Mae rhai yn honni bod Y Barnwr Syr Richard Henn Collins wedi ei ddefnyddio'n gyntaf wrth roi ei ddyfarniad mewn achos enllib McQuire v. Western Morning News ym 1903. Ond roedd Syr Richard yn honni iddo glywed yr ymadrodd gan yr Arglwydd Bower wrth iddo sôn am achos y bu ef yn amddiffyn yn y 1870au.

Ond mae'r cysyniad o ddefnyddio barn y dyn cyffredin fel mesur am resymoldeb yn llawer hŷn. Roedd cyfraith Rhufain yn cyfeirio at bonus paterfamilias- pennaeth y teulu da a pharchus fel safon resymegol.

Termau Tebyg golygu

Mae Cyfraith Awstralia yn defnyddio'r termau tebyg Y Dyn ar Dram Bondi a'r Dyn ar y tram i Bourke Street

Yn Hong Cong, yr ymadrodd cyfatebol yw Y Dyn ar y Tram i Shaukiwan

Tu allan i fyd y gyfraith mae'r term Gymraeg Mrs Jones Llanrug yn cael ei ddefnyddio am wyliwr / wrandäwr Cymraeg cyffredin ar ddarllediadau teledu a radio.

Cyfeiriadau golygu

  1. Richard, Hughes G. (1989). "The Beloit-Valmet saga continues" (PDF). Leger Robic Richard / Robic. Cyrchwyd 14 July 2010.