Y Faenol

ystad yng Nghwynedd

Ystâd yng Ngwynedd ger Felinheli, Bangor yw'r Faenol, a gysylltwyd gyda'r diwydiant llechi dros y blynyddoedd ond sy'n tarddu yn ôl i'r cyfnod Tuduraidd. Mae wal garreg 11 km yn ei hamgylchynu. Mae Gŵyl y Faenol yn ŵyl gerddorol a gynhelir yno bob blwyddyn ers 2000. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr ystâd yn 2005 a Phenwythnos Mawr Radio 1 yn 2010. Ceir dros 30 o adeiladau wedi'u cofrestru ar y stâd.

ystad Faenol
Mathystad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.202°N 4.193°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Perchnogaethteulu Williams Edit this on Wikidata
Mynedfa i'r ystad.
Chwarel Vivian - rhan o Chwarel Dinorwig

Hanes yr ystâd golygu

Esgobaeth Bangor oedd yn gyfrifol am y stâd yn wreiddiol ac fe'i trosglwyddwyd ar lês yn yr 16g i deulu Cochwillan a phan farwodd Syr William Williams yn ddi blant ym 1696, trosglwyddodd y lle i Goron Lloegr. Tua 1723 cyflwynwyd hi i John Smith, Tedworth, Hampshire, ac yna i'w nai Thomas Assheton o Ashley, Sir Gaer yn 1762. Newidiod ei enw i 'Smith' yn 1774. Assheton-Smith oedd trydydd tir feddiannwr mwyaf Gwynedd. Cyfanswm ei renti yn 1806 oedd £42,000, gyda Chwarel Dinorwig hefyd yn llenwi ei bwrs ac a oedd yn y flwyddyn honno yn allfotrio 20,000 tunnell o lechi. Roedd ganddo ystadau yn Lloegr hefyd, a disgrifiodd ei dad y Faenol yn 1792, fel' once the mansion of conviviality and mirth, now the neglected seat of A. Smith Esq. Priododd Elizabeth, merch Watcyn Wynn o Stâd y Foelas.

Yn 1809 ychwanegodd dros ddwy fil a hanner o erwau at ei eiddo drwy yrru milwyr ar geffylau i amgylchynu tir comin Llanddeiniolen er gwaethaf gwrthwynebiad y tyddynwyr lleol.

Olynwyd ef gan ei fab Thomas, (1776-1858) a anwyd yn Llundain a'i addysgu yn Eton lle daeth yn enwog fel paffiwr a chricedwr. Priododd yn 1827 efo merch William Webber o Binfield Lodge, Berkshire. Fel ei dad, roedd yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i godi pont dros y Fenai.

Ym 1856 gwnaeth chwarel Dinorwig elw o £30,000. Bu farw Thomas yn 1858 yn y Faenol a'i gladdu yn Tedworth. Ni chafodd blant ac etifeddwyd ei diroedd gan ei or-nai George William Duff (1848-1904). Derbyniodd George ei addysg yn Eton a Rhydychen ac ar ei ben-blwydd yn 21 ychwanegodd yr enw Assheton-Smith at ei enwau eraill. Roedd yn Uchel Siryf Môn yn 1872 ac yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1878. Priododd gyda Laura Alice Stanhope Jones, Tilston, Sir Gaer yn 1888. Roedd yn Geidwadwr rhonc ac arhosodd yr Arglwydd Salisbury, y prif Weinidog yn y Faenol pan ymwelodd â Chaernarfon yn y flwyddyn honno. Arhosodd rhai o Deulu Brenhinol Lloegr yno hefyd dros y blynyddoedd.

Agorodd sŵ ym Mharc y Faenol yn llawn o anifeiliaid dieithr a pheryglus, ond gwerthwyd y cyfan erbyn 1900, ar wahân i'r beison. Gwariodd tua £307,000 ar wella'r ystâd ac yn 1904roedd wedi cynyddu i fod yn 36,660 o erwau gyda 1,600 o denantiaid. Broliai Thomas y gallai gerdded y pymtheg milltir o'r Faenol i gopa'r Wyddfa heb i'w draed adael ei eiddo ef ei hun.

Yr 20fed ganrif golygu

 
Arfau teulu y Barwn Duff, Parc y Faenol a grewyd i'r 3ydd Barwn yn 1911.

Charles Garden Duff (neu i roi ei enw swyddogol Saesneg iddo: 'Sir (Charles) Michael Robert Vivian Duff, 3rd Baronet'), (1851-1914), sef brawd George, etifeddodd y Faenol. Cafodd ei addysg yn Ysgol Harrow, a bu'n byw am flynyddoedd cynnar ei fywyd yn Nhrefarthen, ger Brynsiencyn. Bu'n Uchel Siryf Môn ym 1885 ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1908. Roedd yn ŵr tawel iawn a'i brif hoffter oedd rasio ceffylau ac enillodd ras y Grand National deirgwaith. Fel ystadodd eraill megis y Penrhyn, yn 1907 dechreuodd werthu rhannau o'r ystâd. Bu farw yng ngwesty Claridge's yn Llundain ddiwedd Medi 1914.

Ei fab, Richard George Vivian Duff, (1876-1914) etifeddodd y Faenol. Ymunodd a'r 2nd Life Guards, a lladdwyd ef yn Hydref 1914 wrth iddo ffoi o Mons.

Ei unig fab, Michael Robert Vivian Duff (1907-1980) a etifeddodd y stad. Gwerthwyd rhannau ohoni drachefn ym 1919. Mabwysiadodd y cyfenw Duff Assheton-Smith ym 1928, gan ei ollwng yn 1945. Gwasanaethodd fel Maer Bwrdeisdref Caernarfon, Uchel Siryf ac Arglwydd Raglaw a gyda'i farwolaeth ef, daeth y teulu i ben.

Gwerthwyd talp enfawr o'r ystâd i deulu lleol yn 1984.

Gŵyl y Faenol golygu

Lawnsiwyd yr ŵyl yn 2000 ac yn draddodiadol mae'n cael ei chynnal ar benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst. Ceir cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth poblogaidd yno.

Yn 2006, mynychodd dros 35,000 o bobl yr ŵyl pedwar diwrnod, gan dorri'r record ar y blynyddoedd blaenorol.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato