Lleian Gatholig a chenhades o dras Albaniaidd oedd y Fam Teresa (ganwyd Agnes Gonxhe Bojaxhiu) (26 Awst 19105 Medi 1997) yn ninas Skopje sydd heddiw yng Ngweriniaeth Macedonia.

Y Fam Teresa
GanwydAnjezë Gonxhe Bojaxhiu Edit this on Wikidata
26 Awst 1910 Edit this on Wikidata
Skopje Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1997 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Man preswylSkopje, Rathfarnham, Kolkata Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAlbania, India, yr Ymerodraeth Otomanaidd, Dominion of India Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaer grefyddol Edit this on Wikidata
Swyddsuperior general Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Medi Edit this on Wikidata
TadNikollë Bojaxhiu Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Ramon Magsaysay, Gwobr Templeton, Gwobr Balza, Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr Pacem in Terris, Bharat Ratna, Damien-Dutton Award, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, Urdd y Wên, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Ddinesydd anrhydeddus yr Unol Daleithiau, Gwobr Albert Schweitzer, Gwobr Pacem in Terris, Medal Aur y Gyngres, Padma Shri, Grand Order of Queen Jelena, National Order of Honour and Merit, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, honorary citizen of Zagreb, honorary doctor of the University of Hong Kong, honorary doctorate from the University of Alberta, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Honorary Companion of the Order of Australia, UNESCO Prize for Peace Education, Urdd Teilyngdod, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://motherteresa.org Edit this on Wikidata
llofnod

Yn ddeunaw oed, gadawodd Agnes ei chartref i ddod yn lleian ac i weithio fel cenhades gyda sefydliad Chwiorydd Loreto yng Ngweriniaeth Iwerddon, ble dysgodd hi Saesneg, yr iaith a ddefnyddiwyd gan leianod i addysgu plant yn India.[1] Ni welodd ei mam na'i chwaer wedi hyn. Yna symudodd i India i weithio fel athrawes daearyddiaeth mewn ysgol yn y wlad honno. Yn ystod y cyfnod hwn, newidodd hi ei henw i Teresa, ar ôl nawddsant cenadesau. Yn 1952, sefydlodd y Fam Teresa gartref i gysuro pobl a oedd yn marw ac yn dioddef mewn hen deml Hindŵaidd yn ninas Calcutta a oedd eisoes yn anghyfannedd. Gelwir y sefydliad yma yn Kalighat Home for the Dying. Fe enillodd hi Wobr Heddwch Nobel yn 1979 am ei gwaith yn helpu'r tlawd a'r bobl a oedd yn marw. Fe farwodd hi ar y pumed o Fedi 1997. Wedi ei marwolaeth, am ei gweithredoedd dyngarol yn ystod ei bywyd, gwynfydwyd hi gan y Pab Ioan Pawl II.

Maes Awyr golygu

Yn 2002 ail-enwyd maes awyr Rinas yn Faes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa mewn cydnabyddiaeth i waith ac enwogrwydd y Fam Teresa. Lleolir yr awyrfa 11 km o'r brifddinas, Tirana. Dyma brif faes awyr Albania.

Cyfeiriadau golygu

  1. Clucas, Joan Graff. (1988). Mother Teresa. New York. Chelsea House Publications, tt. 28–29. ISBN 1-55546-855-1.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.