Y Fwlgat (Lladin: Vulgate, "poblogaidd") yw'r enw ar y cyfieithiad Lladin o'r Beibl a wnaed gan Sant Sierôm yn y 4g.

Y Codex Amiatinus (tua 750): y testun cynharaf ar glawr o'r Fwlgat.

Hanes golygu

Y Fwlgat yw'r cyfieithiad cynharaf o'r Beibl yn ei gyfanrwydd sydd wedi goroesi. Yn wahanol i gyfieithiadau cynharach, cyfieithwyd yr Hen Destament yn gyfangwbl o'r Hebraeg yn hytrach na dibynnu ar gyfieithiadau Groeg diweddarach.

Dyma'r cyfieithiad o'r Beibl cyfan mwyaf poblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Cafodd ei fabwysiadu gan Cyngor Trent yn 1546 fel fersiwn swyddogol, awdurdodedig, yr Eglwys Gatholig o'r Beibl.

Roedd y Fwlgat yn ei dro yn sail i sawl cyfieithiad i'r ieithoedd brodorol yn Ewrop, yn cynnwys Cymru.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.