Y Gop

bryn (251m) yn Sir y Fflint

Bryn a safle archaeolegol yn Sir y Fflint yw Y Gop, sy'n dod o'r gair "copa". Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir fymryn i'r gogledd o bentref Trelawnyd, Sir Ddinbych a gellir ei ystyried fel un o gopaon gogleddol Bryniau Clwyd, er ei fod fymryn i'r dwyrain o'r brif gadwyn. Dyma ail siambr gladdu fwyaf gwledydd Prydain - ar ôl Silbury Hill ger Avebury ac mae'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig.[1] Yn lleol, gelwir y bryncyn hefyd yn Fryn y Saethau.

Y Gop
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrelawnyd a Gwaenysgor Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr251 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3104°N 3.3722°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0867480166 Edit this on Wikidata
Hyd80 metr Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd59 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMynydd y Cwm (Coed Cwm) Edit this on Wikidata
Map
Y garnedd ar ben Y Gop.

Carnedd a chrug crwn golygu

Mae gan Y Gop le arbennig yn hanes archaeoleg a chynhanes Cymru. Coronir ei gopa â charnedd gynhanesyddol anferth, sydd yr ail fwyaf yng Nghymru a Phrydain (cyfeiriad grid SJ086801). Uchder y garnedd yw tua 12 medr ac mae ganddi lled o tua 80 medr.[2] Blociau mawr o galchfaen a ddefnyddwyd yn bennaf i godi'r garnedd, gydag olion mur o gerrig i'w cryfhau.[3]

Gerllaw ceir crug crwn (cyfeiriad grid SJ088801). Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL042.[4] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Yn ôl yr archaeolegydd Ian Brown, mae'r domen hon mor rwysgfawr ac enigmatig â Silbury Hill. Mae'n ofal o ran siap ac yn mesur 101 wrth 78 metr, ac yn 14m o uchder. Mae rhai o'r meini calchfae yn amlwg ar goll, ac ar un cyfnod credir y byddai ei liw gwyn calchog i'w weld am filltiroedd o'i amgylch. Am gyfnod credid mai perthyn i'r Oes Efydd ydoedd, ond bellach i Oes Newydd y Cerrig a bod dylanwad y Gwyddel arno.

Ogofâu golygu

 
Un o ogofâu'r Gop

Ceir yn ogystal ogofâu ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol yn cynnwys esgyrn hyaena a gweddillion pobl a gladdwyd yno yn y cyfnod Neolithig, a hynny yn ddefodol, fe ymddengys. Damcanieithir fod yr ogofâu a'r garnedd yn rhan o'r un safle defodol ac felly bod y garnedd yn perthyn i'r Oes Neolithig yn hytrach nag Oes yr Efydd, fel a dybiwyd yn y gorffennol.[5]

Mewn un ogof 43m i'r de-ddwyrain o'r siambr gladdu dargafuwyd esgyrn udfil, bison, ceirw amrywiol, ceffyl a rhinoseros gwlanog. Uwch ben y rhain, a oedd mewn haen o glai llwyd roedd potiau clai, siarcol ac olion coginio. Roedd yno hefyd rhai esgyrn anifail wedi'u llosgi a rhai dynol o dan faeni calchfaen. Yn 1958 tra'n archwilio'r haenau hyn canfyddodd yr archaeolegydd Boyd Dawkins ogof gudd a oedd yn cynnwys 14 ysgerbwd dynol, yn agos at ei gilydd. Roeddent wedi'u gosod yno un ar y tro, gyda phob un ar ei gwrcwd (hy gyda'r pengliniau ger yr ên). Mewn rhan arall o'r ogof gerllaw, canfuwyd 6 ysgerbwd arall. Oherwydd y dolenni cau gwregys arbennig gerllaw gellir eu dyddio i Oes Newydd y Cerrig. Mae dolenni cau, fel y rhain, yn hynod o brin, gyda dim ond 23 wedi'u canfod; maent hefyd yn nodi fod eu perchnogion yn bobl o statws uchel o fewn eu cymdeithas. Ymhlith yr arteffactau eraill yn yr ogof roedd fflint wedi'i gaboli, crochenwaith 'Peterborough', cyllell fflint, pen-saeth, bwyell o Graig Lwyd, Penmaenmawr a gên isaf lyncs. Mae'n ymddangos fod rhai o'r cyrff wedi'u claddu mewn man arall cyn eu cludo yma - ac roedd hyn yn ymarfer eitha cyffredin yn y cyfnod mesolithig.[1]

Gweler hefyd golygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Windgather Press; tudalen38-9
  2. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-14.
  3. Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historical Wales (HMSO, 1995), tt. 11-12.
  4. Cofrestr Cadw.
  5. Clwyd and Powys, tt. 11-12.