Y Gribyn

mynydd (795m) ym Mhowys

Y Gribyn (795 m / 2,608') (neu Bryn Teg) yw trydydd copa uchaf Bannau Brycheiniog, yn ne Powys. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn gorwedd yn agos i Ben y Fan, mynydd uchaf y grŵp.

Y Gribyn
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr795 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8817°N 3.4194°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO0239221317 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd130 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaPen y Fan Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Uchder golygu

Uchder y copa o lefel y môr ydy 795 metr (2608 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 665metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1]

Llwybrau golygu

Gellir dringo Cribyn o ddau gyfeiriad. Y llwybr hawsaf a mwyaf poblogaidd yw'r hwnnw sy'n cychwyn o fforest Taf Fechan ger cronfa ddŵr Pontsticill.

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau golygu

  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Gwasg Gee, Dinbych, 1965)

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu