Y Gronfa Ffederal

Banc canolog Unol Daleithiau America yw'r Gronfa Ffederal (System y Gronfa Ffederal neu y Grondrefn Ffederal[1] yn llawn; Saesneg: Federal Reserve System). Gweithredydd ariannol y llywodraeth ffederal yw'r Gronfa Ffederal, a'i swyddogaethau yw gwarchod cyfrifon wrth gefn y banciau masnachol, i fenthyg arian i fanciau masnachol, ac i oruchwylio'r cyflenwad arian ar y cyd â Bathdy yr Unol Daleithiau.

Y Gronfa Ffederal
Math
banc canolog
Sefydlwyd23 Rhagfyr 1913
SefydlyddRobert Latham Owen
CadeiryddJerome Powell
PencadlysEccles Building
Is gwmni/au
Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gronfa Ffederal
Gwefanhttps://www.federalreserve.gov/ Edit this on Wikidata

Crewyd gan Ddeddf y Gronfa Ffederal a luniwyd gan Robert Latham Owen ac a arwyddwyd gan yr Arlywydd Woodrow Wilson ar 23 Rhagfyr 1913. Rhennir y system yn 12 o Fanciau'r Gronfa Ffederal sy'n gyfrifol am wahanol ranbarthau'r wlad. Mae hefyd yn cynnwys Bwrdd y Llywodraethwyr, Pwyllgor Ffederal y Farchnad Agored, a'r Biwro Amddiffyn Prynwyr Ariannol.

Rhestr cadeiryddion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [federal: Federal Reserve System].