Y Gynghrair Arabaidd i Foicotio Israel

Ymgyrch gan wledydd y Gynghrair Arabaidd i ddarbwyllo gwledydd eraill, cyrff, awdurdodau a siopwyr i beidio a phrynnu nwyddau o Israel yw'r Gynghrair Arabaidd i Foicotio Israel.[1] Mae'n ymgais i ynysu Israel yn economegol drwy atal datblygu economi Israel ac o ganlyniad eu gallu i brynnu offer militaraidd.[2]

Y Gynghrair Arabaidd i Foicotio Israel
Enghraifft o'r canlynolboicot Edit this on Wikidata

Cychwynwyd boicotio busnesau a sefydliadau Israelaidd (ac i raddau Iddewig) cyn sefydlu gwladwriaeth Israel yn 1948, ond ffurfiolwyd yr ymgyrch wedi hynny gan y Gynghrair Arabaidd. Mae eu dull o weithredu wedi newid dros amser, gyda rhai aelodau'n atal rhag gweithredu.

Allwedd:      Israel      Gwledydd nad ydynt yn derbyn pasbortau o Israel      Gwledydd nad ydynt yn derbyn pasbortau o Israel, nac ychwaith unrhyw basbort sydd ag arni stamp neu fisa o Israel

Arwyddodd y gwledydd canlynol gytundebau heddwch a oedd yn eu hatal rhag unrhyw foicot: yr Aifft (1979), Palesteina (1993) a'r Iorddonen (1994); ni chytunodd Mauritania erioed yn yr ymgyrch nac ychwaith Algeria, Moroco na Tiwnisia.

Yn swyddogol, mae'r boicot yn y mannau hyn:[3]

  • Nwyddau a gwasanaethau sy'n tarddu yn Israel (a elwir y 'boicot craidd') ac sy'n parhau mewn sawl gwlad Arabaidd
  • Busnesau mewn gwledydd di-Arab sy'n ymwneud â busnesau oddi fewn i Israel (a elwir yn 'foicot eilradd')
  • Busnesau sy'n hedfan nwyddau neu'n hwylio nwyddau i Israel (y 'boicot trydyddol')

Gwledydd gyda chyfyngiadau golygu

Yn ogystal â gwrthod busnes a nwyddau, mae nifer o wledydd yn gwrthod caniatâd i drafaelwyr gyda phasbort o Israel ymweld â'u gwlad. Mae eraill yn mynd gam ymhellach gan wrthod unrhyw basbort sydd ag arni stamp neu fisa o Israel.

 
Logo'r ymgyrch gyffredinol i foicotio cwmniau a chynnyrch o Israel

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hill, Amelia. "Steven Spielberg was target of Arab League boycott, WikiLeaks cable shows." guardian.co.uk - 17 Rhagfyr 2010; adalwyd 12 Gorffennaf 2011.
  2. Turck, Nancy (April 1977). "The Arab Boycott of Israel". Foreign Affairs (Council on Foreign Relations) 55 (3): 472–493. doi:10.2307/20039682. JSTOR 20039682. https://archive.org/details/sim_foreign-affairs_1977-04_55_3/page/472.
  3. Feiler, Gil. "From boycott to economic cooperation ...." Google Books. 2 Medi 2009.