Nofel dditectif gan E. Morgan Humphreys yw Y Llaw Gudd, a gyhoeddwyd yn 1924 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Mae wedi cael ei disgrifio fel "un o'r nofelau ditectif cynharaf yn Gymraeg - onid y gyntaf un" gan y beirniad Bedwyr Lewis Jones.[1]

Dyma'r stori sy'n cyflwyno cymeriad John Aubrey, y ditectif pwyllog ac eofn sy'n ymddangos yn y gyfrol Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938), a ystyrir yn glasur o'i fath. Roedd y stori yn torri tir newydd yn Gymraeg ar y pryd, er bod y deunydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr yr oes hon, sef cyfres o lofruddiaethau y mae Aubrey yn gorfod datrys eu cyfrinach. Cyferbynnir dulliau rhesymegol, pwyllog Aubrey gan rai ei gyd-dditectif yn yr achos, yr Inspector o Scotland Yard sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth ond sy'n methu datrys y dirgelwch.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwenn a Gwyn Jones (Gwasg Gomer, 1983), tud. 51.


Llyfrau E. Morgan Humphreys  
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd