Y Lluman Coch Canadaidd

Cyn-faner Canada yw'r Lluman Coch Canadaidd. Mae'n Lluman Coch Prydeinig – baner goch gyda Baner yr Undeb yn y canton – gyda tharian arfbais Canada yn y lled. Mae gan y darian bedwar rhaniad sy'n cynrychioli Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Ffrainc, mamwledydd nifer o Ganadiaid. Mae gan ran waelod y darian dair deilen masarnen, symbol cenedlaethol y wlad ers 150 mlynedd. Er na fabwysiadwyd y faner yn swyddogol erioed gan Senedd Canada, cynyddodd gefnogaeth am faner unigryw yn y 1960au cynnar a mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 15 Chwefror 1965.

Y Lluman Coch Canadaidd, fel y ddefnyddiwyd o 1957 i 1965

Mae dyluniadau baneri Manitoba ac Ontario yn seiliedig ar y Lluman Coch Canadaidd.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato