Ymfudiad gorfodol yr Americanwyr Brodorol rhwng 1836 a 1839, yn bennaf o Georgia i Oklahoma, oedd y Llwybr Dagrau (Saesneg: The Trail of Tears; Cherokee: ᎨᏥᎧᎲᏓ ᎠᏁᎬᎢ - llythrennol: "Y man lle maent yn wylo"). Yn y cyfnod hwn roedd hawl gan y Fyddin Americanaidd i gymryd tir y brodorion, dros faner Tynged Amlwg, ac ehangu tiriogaeth yr Unol Daleithiau. Bu farw chwarter o boblogaeth y Cherokee ar y daith.

John Ross, Americanwr o dras Ewropeaidd a geisiodd amddiffyn hawliau'r Cherokee yn y Llys Goruchaf.

Cyn cychwyn y Llwybr Dagrau, bu ymgyrch hir o wthio'r brodorion i orllewin Afon Mississippi. Darganfuwyd aur yn Georgia ym 1829, gan beri rhuthr am aur i'r dalaith honno. Cafodd y tir ei brisio am $7 miliwn (US$184 miliwn yn 2016), felly llofnododd yr Arlywydd Andrew Jackson Ddeddf Caethgludo'r Indiaid ym 1830.

Gweler hefyd golygu

Ysbryd Perthynol cerflyn yn Iwerddon sy'n cofio'r Llwybr Dagrau.