Y Mudiad Amhleidiol

Grŵp rhyngwladol yw'r Mudiad Amhleidiol o wladwriaethau nad yw'n ystyried eu hunain wedi'u hymochri'n ffurfiol ag unrhyw floc grym, neu yn erbyn unrhyw floc. Mae'n cynnwys Belarws, Wsbecistan, ac holl aelodau Grŵp y 77, ac eithrio'r rhai sydd yn arsyllwyr yn y Mudiad yn ogystal â gwledydd Oceania (ar wahân i Papua Gini Newydd a Fanwatw, sydd yn aelodau).

Y Mudiad Amhleidiol


      Aelodau
      Gwledydd arsyllwyr

PencadlysCanolfan Gydgysylltu yn Ninas Efrog Newydd
Aelodaeth120 o aelodau
17 o wledydd arsyllwyr
Prif gorff penderfynuCynhadledd Penaethiaid Gwladwriaethau y Gwledydd Amhleidiol
CadeiryddBaner Yr Aifft Yr Aifft
Ysgrifennydd CyffredinolMohamed Hussein Tantawi (de facto)
Sefydlwyd1961
Gwefancsstc.org

Sefydlwyd y sefydliad yn Beograd ym 1961 gan ymdrechion Josip Broz Tito, Arlywydd Iwgoslafia, Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India, Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft, Kwame Nkrumah, Arlywydd Ghana, a Sukarno, Arlywydd Indonesia. Eu bwriad oedd i hyrwyddo trydydd ddewis i wladwriaethau'r Trydydd Byd ar wahân i flociau'r Dwyrain a'r Gorllewin yn y Rhyfel Oer.