Y Mwynglawdd

pentref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Y Mwynglawdd (Saesneg: Minera). Y pentrefi cyfagos yw Coedpoeth i'r dwyrain a Bwlchgwyn i'r gogledd-orllewin. Y Mw'nglodd yw'r enw ar lafar yn lleol.

Y Mwynglawdd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,617 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,175.74 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0593°N 3.0937°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000900 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ267518 Edit this on Wikidata
Map

Ar un adeg bu Mwynglawdd yn gymuned amaethyddol gyda nifer o ffermydd yn y cylch, ond serch hynny cloddid plwm yn yr ardal ers yr Oesoedd Canol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, tyfodd Mwynglawdd yn bentref sylweddol gyda mwyngloddiau newydd yn cael eu hagor o'i gwmpas.

Codwyd capel cyntaf y pentref ym 1804, ar safle'r capel presennol. Cafodd ei ailenwi yn Gapel Mwynglawdd ac yna, yn 1859, yn Gapel Pen y Bryn. Er gwaethaf y ffaith ei fod mor agos i'r ffin â Lloegr, bu'r pentref, fel nifer o'r rhai eraill yn y cylch, yn gartref i gymuned Gymraeg.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mwynglawdd (pob oed) (1,617)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mwynglawdd) (290)
  
18.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mwynglawdd) (1153)
  
71.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Mwynglawdd) (229)
  
33.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]