Pentref yng nghymuned Gwersyllt, Sir Wrecsam, Cymru, yw Y Pandy (hefyd Pandy; Saesneg: The Pandy). Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y sir, 1 filltir i'r dwyrain o Wersyllt ar Afon Alun, ger Gresffordd. Ceir dwy stad ddiwydiannol fechan yn y pentref.

Y Pandy, Wrecsam
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0722°N 2.9933°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ335532 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Pandy (gwahaniaethu).

Mae olion hen felin dŵr ar lan yr afon o hyd, dyma'r lle oedd y merched yn pannu, ac ar y bryn yma bydd safle canolfan sgio llethr sych Cymru, ar y tip glo enfawr. Gohirwyd y cynllun mwy nag unwaith yn ddiweddar. Mae cylchfan i'r ffordd osgoi Wrecsam-Caer yn wneud y lle yn addas i ddatblygiad o'r fath. Mae cynllun arall i agor mynwent newydd i Wrecsam ar ochr gogleddol y pentref.

Y gofeb i Drychineb Gresffordd

Y pentrefi agosaf yw Llai i'r gogledd, a Gresffordd i'r gorllewin. Mae'r Pandy yn rhan o Gymuned Gwersyllt.

Yng nghanol y pentref mae safle Glofa Gresffordd, sy'n enwog am y drychineb a ddigwyddodd ar 22 Medi 1934. Cafodd 265 o bobl eu lladd wedi ffrwydrad nwy. Mae hi'n un o'r trychinebau pyllau glo mwyaf yn hanes Prydain. Cauwyd y pwll yn Nhachwedd 1973 a datblygwyd rhan o'r safle. Er gwaethaf enwocrwydd y Ddrychineb roedd rhaid aros tan 1982 i gael cofeb deilwng yn defnyddio olwyn o'r gêr weindio. Ers 1998 mae stad o dai newydd ar safle y siediau glo, ceiswyd newid enw'r pentref i Gresford Heath gan y datblygwyr (am fod prisiau tai yn uwch yng Ngresffordd ac i Seisnigo ar yr enw). Mae cofeb i'r rhai bu farw yn Nrychineb Gresffordd yn Y Pandy o flaen Clwb y Glowyr.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato