Y Pedwar Efengylydd

Mathew, Marc, Luc a Ioan

Yn y traddodiad Cristnogol y Pedwar Efengylydd yw Mathew, Marc, Luc a Ioan, awduron pedair efengyl y Testament Newydd yn y Beibl.

Symbolau'r pedwar Efengylydd yn y Llyfr Kells. Mae'r pedwar creadur adeiniog yn symbolau o: (clocwedd o chwith y brig) Mathew, Marc, Ioan a Luc.

Yn eiconograffiaeth Cristnogol y pedwar Efengylydd ceir y symbolau:

  • Mathew fel dyn adeiniog
  • Marc fel llew adeiniog
  • Luc fel tarw adeiniog
  • Ioan fel eryr

Un o'r enghreifftiau gorau o hyn yw'r darlun yn y Llyfr Kells (Folio 27v) a beintiwyd tua'r flwyddyn 1200.

Gelwir y pedwar efengyl yn aml yn 'Efengylau Cyfolwg (neu 'Synoptig') gan eu bod yn cynnwys yr un storiau, ac yn aml yn yr un drefn.

Darluniau nodedig eraill golygu

Paentiadau olew bychan a wnaed ar gyfer Anna, Duges Llydaw, Brenhines Ffrainc (1477–1514)

Cyfeiriadau golygu