Traeth Mawr, Porthmadog

(Ailgyfeiriad o Y Traeth Mawr)

Y Traeth Mawr yw'r tir o ddolydd a chorsydd rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Rhed Afon Glaslyn drwyddo ar ei ffordd i'r môr. Erbyn heddiw mae'r Traeth Mawr yn dir sych yn bennaf ond cyn dechrau'r 19g roedd yn draeth eang o bobtu hen aber Afon Glaslyn ac yn rhwystr mawr (a pheryglus weithiau) i deithwyr. Yn Oes y Tywysogion yr oedd yn dynodi'r ffin rhwng dau gwmwd Cantref Dunoding, sef Eifionydd i'r gogledd ac Ardudwy i'r de. Gelwir yr hyn sy'n weddill o'r hen draeth, i'r de o'r Cob, Y Traeth Bach.

Y Traeth Mawr
Mathpolder Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPorthmadog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.935°N 4.105°W Edit this on Wikidata
Map

Llenwyd y rhan fwyaf o'r Traeth Mawr â phridd a cherrig fel rhan o gynllun uchelgeisiol William Madocks, sylfeinydd Porthmadog a Thremadog. Cododd Madocks y Cob, clawdd uchel sy'n croesi ceg yr hen aber ac yn cludo Rheilffordd Arfordir Cymru a'r A487 rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.

Y Traeth Mawr o'r Cob
Trên ar y cob yn croesi'r Traeth

Cyn i'r Cob gael ei godi roedd aber yr afon yn dechrau ger Pont Aber Glaslyn (mae'r enw'n nodi'r ffaith) pan fyddai'r llanw allan, tua 5 milltir i'r gogledd o'r Cob. Roedd croesi'r Traeth heb dywysydd lleol yn gallu bod yn waith peryglus. Cul a chreigiog oedd y rhimyn o dir wrth droed y Moelwynion ac anaddas i geffylod a cheirt. Ceir sawl cyfeiriad at y Traeth yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Croesodd Gerallt Gymro gyda Baldwin, Archesgob Caergaint yn 1188 ar ei daith trwy Gymru.

O'r Gwyllt i'r Dof (ac yn ôl?) golygu

Mae'n debyg bod y Traeth Mawr, am gyfnod ar ôl enciliad olaf yr ia ddeng i bymtheng mil o flynyddoedd yn ôl, yn aber gwyllt heb ymyrraeth o unrhyw fath gan Ddyn. Pa mor hir oedd y cyfnod hwnnw? Beth oedd defnydd cyntaf Dyn ohono? Pryd oedd yr amaethu cyntaf; sut crewyd yr amodau ac ba raddfa? Pa fath o weithgareddau arweiniodd at y diwyllio amaethyddol a welwn heddiw. A beth a ragwelir i'r Traeth yn y dyfodol yng ngwyneb Newid Hinsawdd - ail wylltio ac ail-halltu? Dydi'r camau na chronoleg y broses hir dymor hon ddim pob amser yn hysbys nac yn amlwg. Dyma ymgais cychwynnol at gronoleg:

  • Maentumir mai helwyr crwydrol oedd y cyntaf, i ddefnyddio'r Traeth i bysgota ac efallai i ffowla.
  • Efallai i'r helwyr cynnar fordwyo'r afon at lanfa Aberglaslyn.
  • 'Bu coredau [dal pysgod] am ganrifoedd lawer nes codi Morglawdd Madog'[1]
  • Caewyd â mân morgloddiau rannau o'r Traeth, rhwng yr 'ynysoedd' i ddechrau mae'n debyg, ac yn ddiweddarach, ar raddfa fwy, ond tameidiog o hyd, ar ochr orllewinol y Traeth. Caewyd darn sylweddol o dan Penmorfa. Adnebid darn arall (cob cyntaf Maddocks?) fel yr 'hen forfa' gan Owen Edwards yn ei ddyddiadur.
  • Yn 1809 cododd William Maddocks ei gob mawr ar draws geg y Traeth gan gadw allan y môr a chwyldroi natur y Traeth Mawr hyd heddiw ac am gyfnod amhenodol.
  • Rhwng y blynyddoedd 1820 ac 1827 cawn gofnod manwl o weithgareddau pob dydd ar y Traeth a'r cyffiniau gan yr amaethwr Owen Edwards.
  • Heddiw, mae'r Traeth Mawr yn wyrdd a than amaethyddiaeth o Aberglaslyn i'r cob
  • Gyda rhagolygon dybryd o godiad sylweddol yn lefel y môr yng ngwyneb Newid Hinsawdd, oni newidith seiliau'r rhagolygon hynny fe ddisgwylir i'r môr bwyso'n ddinistriol ar y cob, neu godi i lefel uwch na'r cob a chyrraedd Aberglaslyn unwaith eto, efallai o fewn y ganrif?

Cyfeiriadau golygu

  1. Emrys Evans [dyddiad?], Dal Pysgod, (Llyfrau Llafar Gwlad rhif 12)