Y Tywysog Philip, Dug Caeredin

gŵr Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig

Roedd Tywysog Philip, Dug Caeredin KG KT OM GBE AC QSO PC (ganwyd Tywysog Philip o Wlad Groeg a Denmarc, 10 Mehefin 19219 Ebrill 2021)[1] yn aelod o deulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn ŵr i Frenhines Elisabeth II.

Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
GanwydPhilip of Greece and Denmark Edit this on Wikidata
10 Mehefin 1921 Edit this on Wikidata
Corfu Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
o heneidd-dra Edit this on Wikidata
Castell Windsor Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Buckingham, Castell Windsor, Castell Balmoral, Tŷ Sandringham, Palas Holyrood, Clarence House Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Gordonstoun
  • Ysgol Cheam
  • Schule Schloss Salem
  • Britannia Royal Naval College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr polo, swyddog milwrol, cymar, swyddog yn y llynges, pendefig Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, llywydd corfforaeth, cymar teyrn y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadAndreas o Wlad Groeg a Denmarc Edit this on Wikidata
MamAlis o Battenberg Edit this on Wikidata
PriodElisabeth II Edit this on Wikidata
PlantSiarl III, Anne, y Dywysoges Reiol, y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog, y Tywysog Edward, Dug Caeredin Edit this on Wikidata
Llinachteulu Mountbatten, Llinach y Glücksburgs Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Croix de guerre 1939–1945, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Cadwen Frenhinol Victoria, Medal Albert, Urdd yr Eliffant, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd Seland Newydd, President's Medal, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch Groes Urdd Filwrol Crist, Grand Cross of the Military Order of Avis, Uwch Groes Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf, Urdd Brenhinol y Seraffim, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Uwch Croes Urdd Siarl III, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Knight of the Order of Australia, Urdd y Gwaredwr, Livingstone Medal, Melchett Medal, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Honorary Companion of the Order of Australia Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Philip yn Mon Repos, Corfu, Gwlad Groeg.[2]

Roedd yn wreiddiol yn dywysog brenhinol Gwlad Groeg a Denmarc. Ers iddo newid ei genedligrwydd, cafodd ei adnabod fel Philip Mountbatten.

Ar 19 Tachwedd 1947 fe'i gwnaed yn Farchog y Gardas Aur,[3] a chael yr hawl i gael ei gyfeirio ato gyda'r arddull "Uchelder Brenhinol".[4]

Tywysog Cydweddog i'r Frenhines golygu

Ar 20 Tachwedd 1947 priododd y Dywysoges Elizabeth, edling y Brenin Siôr VI, a'i ddyrchafu yn Ddug Caeredin, Iarll Meirionnydd a Barwn Greenwich. Cafodd ei urddo yn Dywysog y Deyrnas Unedig ym 1957.

Bu'r Tywysog Philip ar wasanaeth gweithredol yn y Llynges Frenhinol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel oedd ar y llong ryfel HMS Whelp yn y Môr Tawel, a fu'n bresennol ym Mae Tokyo ar gyfer ildio Siapan ar 2 Medi 1945.

Ef oedd yr aelod cyntaf o'r Teulu Brenhinol Prydeinig i gael ei gyfweld ar y teledu ym mis Mai 1961. Teithiodd gyda'r Frenhines ar bob un o'i theithiau brenhinol.

 
Ymweliad gan y Tywysog Philip i Fangor. Ffotograff gan Geoff Charles (1957).

Cafodd y Frenhines Elizabeth a'r Tywysog Philip pedwar o blant: Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru; Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol; Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog  a'r Tywysog Edward, Iarll Wessex. Mae ganddynt hefyd wyth o wyrion ac wyth o or-wyrion.

Ymddeoliad golygu

Ymddeolodd o'i ddyletswyddau brenhinol ar 2 Awst 2017, yn 96 oed.

Ym mis Chwefror 2021 aeth i'r ysbyty am driniaeth gan aros yno am fis, cyn mynd adre ar 16 Mawrth.[5]

Bu farw ar fore Gwener, 9 Ebrill 2021 yng Nghastell Windsor. [6] Cyhoeddwyd y newyddion ganol dydd ar gyfrif Twitter y teulu brenhinol.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Prince Philip has died aged 99, Buckingham Palace announces (en) , BBC News, 9 Ebrill 2021.
  2. About The Duke of Edinburgh
  3. List of the Knights of the Garter (1348-present) - Heraldica (Rhif 902)
  4. The London Gazette: 21 Tachwedd 1947, Rhif 38128, Tud 5495
  5. Prince Philip: Duke of Edinburgh leaves hospital after a month (en) , BBC News, 9 Ebrill 2021.
  6. Tywysog Philip, Dug Caeredin wedi marw yng Nghastell Windsor , Golwg360, 9 Ebrill 2021.
  7. @RoyalFamily (2021-04-09). "It is with deep sorrow that Her Majesty The Queen has announced the death of her beloved husband, His Royal Highness The Prince Philip, Duke of Edinburgh. His Royal Highness passed away peacefully this morning at Windsor Castle" (Trydariad) – drwy Twitter.