Papur Cymraeg a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon gan gwmni’r Wasg Genedlaethol Gymreig oedd Y Werin. Roedd gan yr wythnosolyn hwn, dueddiadau llafur. Oherwydd prinder papur yn y cyfnod yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei uno a'r ‘Eco’ yn 1914 i ffurfio ‘Y Werin a’r Eco’.

Y Werin Hydref 17 1885

Bu ganddo nifer o olygyddion, yn cynnwys William John Parry (1842-1927), Beriah Gwynfe Evans (1848-1927), John Thomas (Eifionydd, 1848-1922) ac Edward Morgan Humphreys (Celt, 1882-1955)[1].

Cyfeiriadau golygu