Y glust ganol yw'r rhan o'r glust sydd rhwng drwm y glust a'r ffenestr hirgrwn. Mae'r glust ganol yn trosglwyddo sain o'r glust allanol i'r glust fewnol. Mae'r glust ganol yn cynnwys y tri esgyrnyn: y morthwyl, yr eingion a'r gwarthol, y ffenestr hirgrwn, y ffenestr gron a'r tiwb Eustachio[1].

Y glust ganol
Enghraifft o'r canlynolanatomical cluster type, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathclwstwr anatomegol heterogenaidd, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oclust Edit this on Wikidata
Cysylltir gyday glust allanol, y glust fewnol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdrwm y glust, tympanic cavity, esgyrnyn, tensor tympani muscle, stapedius muscle, mastoid antrum, aditus to mastoid antrum, mastoid cell, muscle of auditory ossicle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Strwythur golygu

  • Drwm y glust.
Mae drwm y glust yn denau iawn, yn mesur tua 8-10mm mewn diamedr ac yn cael ei ymestyn trwy gyfrwng cyhyrau bach. Mae'r pwysau o donnau sain yn golygu bod drwm y glust yn dirgrynu.
  • Esgyrnynnau
Trosglwyddir y dirgryniadau ymhellach i'r glust trwy'r tri esgyrnyn. Mae'r esgyrnynnau yn fath o bont. Mae'r esgyrnyn cyntaf, y morthwyl wedi cysylltu i drwm y glust ac mae'r gwarthol, sef yr esgyrnyn olaf mae'r sŵn yn cyrraedd, wedi'i gysylltu â'r ffenestr hirgrwn.
  • Y ffenestr hirgrwn
Mae'r ffenestr hirgrwn yn bilen sy'n cwmpasu'r fynedfa i'r cochlea yn y glust fewnol. Pan fydd drwm y glust yn dirgrynu, mae'r tonnau sain yn teithio drwy'r esgyrnynnau i'r ffenestr hirgrwn. Trwy hyn mae'r glust ganol yn gweithredu fel trawsnewidydd acwstig sy'n ymestyn y tonnau sain cyn iddynt symud ymlaen i'r glust fewnol. Mae pwysedd y tonnau sain ar y ffenestr hirgrwn tua 20 gwaith yn uwch nag ar drwm y glust.
  • Y ffenestr gron
Mae'r ffenestr gron yn y glust ganol yn dirgrynu mewn gwrthwedd i ddirgryniadau'r ffenestr hirgrwn. Trwy wneud hyn, mae'n caniatáu i'r hylif yn y cochlea i symud.
  • Y tiwb Eustachio
Y tiwb Eustachio sydd yn cysylltu'r glust gyda chefn y daflod. Ei swyddogaeth yw cydraddoli'r pwysedd aer ar ddwy ochr drwm y glust, gan sicrhau nad yw'r pwysedd yn cynyddu yn y glust. Mae'r tiwb yn agor pan fyddwch yn llyncu, gan wneud y pwysau aer y tu mewn a'r tu allan i'r glust yr un faint.
 
Y glust ganol: 1 drwm y glust; 2 esgyrnynnau; 3 tiwb Eustachio; 4 tensor tympani

Swyddogaeth golygu

Swyddogaeth y glust ganol yw trosglwyddo sain o'r glust allanol i'r glust fewnol

Yn arferol, pan fod tonnau sain mewn aer yn taro hylif, mae'r rhan fwyaf o'r ynni yn cael ei golli trwy gael ei adlewyrchu oddi ar wyneb yr hylif. Mae strwythur y glust ganol yn caniatáu i'r glust oresgyn y broblem o rwystro sain rhag teithio o aer i system o hylifau a philenni'r glust fewnol.

Mae'r glust ganol yn defnyddio "fantais fecanyddol" yr "egwyddor hydrolig" a'r "egwyddor lifer" i gynyddu sŵn. Mae'r rhan o'r drwm y glust sy'n dirgrynu sawl gwaith yn fwy nag arwynebedd droed y gwarthol sy'n cysylltu â'r ffenestr hirgrwn. Ar ben hynn y mae siâp darnau cymalog yr esgyrnynnau yn gweithio fel lifer. Mae coes hir y morthwyl yn gweithio fel braich hir lifer. Mae corff yr eingion yn gweithio fel ffwlcrwm lifer ac mae coes fer yr eingion yn gweithio fel braich fach lifer. Trwy hynny bydd faint y pwysau bydd yn cael ei daro ar y ffenestr hirgrwn gan droed y gwarthol hyd at ugain gwaith y pwysau wnaeth ymadael a drwm y glust[2].

Arwyddocâd clinigol golygu

Ymysg y broblemau meddygol sy'n gallu effeithio ar y glust ganol yw

Cyfeiriadau golygu

  1. Hear it - The inner ear Archifwyd 2017-09-28 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Chwefror 2018
  2. Joseph D. Bronzino (2006). Biomedical Engineering Fundamentals. CRC Press. ISBN 0-8493-2121-2.
  3.  Llid y glust ganol (otitis media): Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 11 Ebrill, 2010.
  4. Eustachian tube dysfunction