Y pedwar copa ar ddeg

Dyma restr o'r mynyddoedd hynny sydd dros 3000 o droedfeddi, sef 914.4 metr. Yn draddodiadol, gelwir hwy'n bedwar copa ar ddeg. Hyd at diwedd y 2010au cyfrifwyd 14 copa o fewn y diffiniad hwn. Bellach, derbynir fod 15 ohonynt.[1] Maen nhw i gyd o fewn tafliad carreg i'w gilydd: o fewn 3 chlwstwr o fynyddoedd, ac felly'n sialens arbennig i'r cerddwr i'w gorchfygu nhw i gyd o fewn 24 awr.[2]

Yr Wyddfa o Lyn Llydaw.

Y copa a ychwanegwyd at y 14 i wneud cyfanswm o 15 yw Carnedd Gwenllian. Nid yw'r copa hwn, fodd bynnag, yn cael ei gyfri gan gerddwyr neu redwyr y sialens.

Hyd y sialens hwn ydy tua 26 milltir (42 km), gyda'r daith gerdded o fan-cychwyn i fan-cychwyn yn ychwanegu tua 4 milltir at y daith, sy'n rhoi cyfanswm o 30 milltir (48 km). Cerdded y sialens hwn mae'r rhan fwyaf o bobl, a gellir gwneud hynny'n gymharol rwydd o fewn 24 awr. Ond mae eraill yn rhedeg, ac mae'r record (Awst 2011) yn 4 awr ac 19 munud; gwnaed hynny gan Colin Donnelly 1988. Yn 1978 cyflawnodd John Wagstaff y sialens dair gwaith o fewn 22 awr a 49 munud.

Cyfeiriadau golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)