YesCymru

mudiad dros annibyniaeth i Gymru

Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a'i brif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]

YesCymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Cymreig, annibyniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://yes.cymru/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo YesCymru
Baner YesCymru yn cael ei chwifio gan band 'Tŷ Gwydr' mewn gig yn Eisteddfod Caerdydd, 2018

Ar 2 Tachwedd 2020, roedd gan y mudiad 12,000 o aelodau.[2][3] Golygai hyn y gwelwyd cynnydd o 3,000 o aelodau mewn llai na tridiau (30 Hydref - 2 Tachwedd; a chynnydd o 9,000 o aelodau rhwng Chwefror a Thachwedd. Tyfodd aelodaeth ac amlygrwydd YesCymru yn esbonyddol yn ystod y pandemig COVID-19.  Mae nifer yr aelodau wedi dyblu o 2,500 i 5,000 dros ddau fis yn unig yn ystod gwanwyn 2020. Cafodd y sefydliad gynnydd pellach o oddeutu 3,000 o aelodau dros dri diwrnod ddiwedd mis Hydref 2020; roedd y codiad hwn yn cyd-fynd â llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi hwb i fusnesau Cymru ar gyfer y cyfnod cau tân '17 diwrnod' yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2021, honnodd YesCymru fod ganddo fwy na 17,000 o aelodau cofrestredig. Cred Siôn Jobbins mai un o'r rhesymau dros dwf mor gyflym yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig.

Cynhaliodd y mudiad ei digwyddiad mawr cyntaf ym Medi 2014 yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba', lle ddaeth cannoedd o bobl ynghyd.[4]

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys ym mis Ebrill 2015, yn galw am Ymreolaeth i Gymru fis cyn yr etholiad cyffredinol.[5]

Yr orymdaith genedlaethol gyntaf dros Annibyniaeth golygu

Ym Mai 2019, gyda Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru), trefnwyd yr orymdaith genedlaethol gyntaf dros Annibyniaeth yng Nghaerdydd. Yn ogystal â'r ddau fudiad yma, cefnogwyd yr orymdaith gan Awoken Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Cefnogwyr Peldroed dros Annibyniaeth, Llafur dros Annibyniaeth, Gellir Gwell!, ac Undod. Anerchwyd y dorf gan Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru), Carys Eleri (Actor), Ben Gwalchmai (Llafur Dros Annibyniaeth), Siôn Jobbins (YesCymru), Sandra Clubb (Undod) ac Ali Goolyad (Bardd). Yn ôl y wasg, roedd dros 2,000 yn bresennol.

Llyfryn Annibyniaeth yn dy Boced golygu

 
'Annibyniaeth yn dy Boced'

Yn 2017 cyhoeddodd y mudiad lyfryn ddwyieithog maint A6 o'r enw 'Annibyniaeth yn dy Boced' ('Independence in your pocket'). Argraffwyd y llyfr gan Gwasg y Lolfa. Rhoddwyd fersiwn pdf am ddim o'r llyfr ar wefan YesCymru yn ogystal â'r copi print.

 
Sticyr YesCymru

Radio YesCymru golygu

Darlledwyd Radio YesCymru ar y we yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Darlledwyd ar wefan cymru.fm a hefyd Radio Beca. Roedd y darllediadau byw rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener 8-19 Awst. Recordiwyd y rhaglenni o swyddfa Indycube ar Sgwâr Mount Stewart. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins a cafwyd cyfweliadau amrywiol gyda chenedlaetholwyr gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, Adam Price, Eurfyl ap Gwilym, y llenor Catrin Dafydd (enillydd Cadair yn Eisteddfod Caerdydd), Huw Marshall, Llwyd Owen a Gareth Bonello.

Dolenni golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan swyddogol y mudiad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-04. Cyrchwyd 2015-08-29.
  2. "Canghennau YesCymru yn rhan annatod o'r ymgyrch am annibyniaeth". Golwg360. 2020-11-02. Cyrchwyd 2020-11-02.
  3. Cyfri Twitter @YesCymru; adalwyd 2 Tachwedd 2020
  4. Rali Ewch amdani Alba
  5. Rali’n galw am “chwarae teg” i Gymru