Ymerodraeth Trebizond

Sefydlwyd Ymerodraeth Trebizond (Groeg: Βασίλειον τής Τραπεζούντας, yn 1204, wedi i'r Ymerodraeth Fysantaidd ymrannu'n nifer o ddarnau yn dilyn cipio dinas Caergystennin.

Ymerodraeth Trebizond
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben1461 Edit this on Wikidata
Label brodorolΑυτοκρατορία της Τραπεζούντας Edit this on Wikidata
CrefyddYr eglwys uniongred ddwyreiniol edit this on wikidata
Dechrau/Sefydlu1204 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Olynwyd ganyr Ymerodraeth Otomanaidd Edit this on Wikidata
Map
Rhagflaenyddyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
OlynyddTrebizond Eyalet Edit this on Wikidata
Enw brodorolΑυτοκρατορία της Τραπεζούντας Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth Fenis yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr Ymerodraeth Ladin, yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Un o'r rhannau yr ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd iddynt oedd Ymerodraeth Trebizond, gyda'r brifddinas yn Trebizond (Trabzon yn Nhwrci yn awr). Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Alexius I, ŵyr yr ymerawdwr Bysantaidd Andronikos I Komnenos, a gymerodd feddiant ar ddinasoedd Groegaidd Trebizond a Sinope a Paphlagonia.

Wedi i ddinas Baghdad gael ei dinistrio gan Hulagu Khan yn 1258, Trebizond oedd pen dwyreiniol Ffordd y Sidan, ac yn ystod teyrnasiad Alexios III (1349 - 1390) daeth yn un o ganolfannau masnach pwysicaf y byd ac yn gyfoethog iawn. Parhaodd ymerodraeth Trebizond hyd 1461, pan gymerwyd meddiant ar ei thiriogaethau gan yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Ymerodraeth Trebizond, yr Ymerodraeth Ladin, Ymerodraeth Nicea ac Unbennaeth Epirus yn 1204