Ymosodiadau Norwy, 2011

Dau ymosodiad terfysgol yn Norwy ar Ddydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011 oedd ymosodiadau Norwy, 2011. Tua 15:26 ffrwydrodd bom car yn Regjeringskvartalet, ardal llywodraeth Oslo, y tu allan i swyddfa'r Prif Weinidog Jens Stoltenberg, gan ladd wyth person. Tua dwy awr yn ddiweddarach dechreuodd dyn mewn gwisg heddwas saethu yng ngwersyll ieuenctid ar ynys Utøya yn Tyrifjorden, Buskerud, gan ladd o leiaf 68 o bobl. Roedd y mwyafrif ohonynt yn mynychu gwersyll haf y Blaid Lafur Norwyaidd yno.

Ymosodiadau Norwy, 2011
Enghraifft o'r canlynolllofruddiaeth torfol, ymosodiad terfysgol Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Lladdwyd77 Edit this on Wikidata
Rhan oterfysgaeth yn Norwy Edit this on Wikidata
LleoliadOslo, Utøya Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRegjeringskvartalet bombing, Utøya massacre Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthOslo, Buskerud Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffenestri Swyddfa'r Prif Weinidog wedi'u torri o ganlyniad i'r ffrwydrad

Arestiwyd Anders Behring Breivik, dyn 32 oed o Norwy, gan yr heddlu 90 munud ar ôl i'r gyflafan ddechrau [1] yn Utøya a chyhuddwyd ef o'r ddau ymosodiad. Dywedodd cyfreithiwr Breivik iddo ildio ar ôl iddo redeg allan o fwledi. Dywedir fod gan Breivik ddaliadau Cristnogol ffwndamentalaidd a gwrth-Fwslemaidd a'i fod wedi bod yn cynllwynio'r ymosodiad am gryn dipyn o amser.[1][2] Credir fod ganddo gysylltiadau adain dde eithafol. Credir hefyd iddo weithredu ar ei ben ei hun, heb gydweithrediad unrhyw un arall[1] Ar ôl iddo gael ei arestio, cyfaddefodd i osod y bom ac i'r saethu er nad oedd yn cyfaddef i euogrwydd troseddol.

Ar ddydd Sul 24 Gorffennaf 2011 cynhaliwyd gwasanaeth goffa yn Eglwys Gadeiriol Oslo a fynychwyd gan Frenin Norwy, Harald V, a'i wraig y Frenhines Sonja ynghyd â'r Prif Weinidog, Jens Stoltenberg.

Ymateb rhyngwladol golygu

Achosodd yr ymosodiad sioc ledled y byd a rhyddhaodd nifer o arweinyddion gwleidyddol ddatganiadau yn mynegi eu cydymdeimlad. Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, fod yr ymosodiadau yn "gwbl erchyll"[3] tra bod yr Ysgrifennydd Gwladol, Theresa May wedi cynnig unrhyw gymorth, gan gynnwys cymorth yr heddlu i Norwy. Ysgrifennodd y Frenhines Elisabeth II at Frenin Norwy i fynegi ei chydymdeimlad a sioc am y digwyddiadau. Dywedodd Barack Obama, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ei fod yntau'n cydymdeimlo'n ddwys gyda thrigolion Norwy a bod y digwyddiad yn "atgoffa'r gymuned ryngwladol o'r rhan mae ganddynt oll i'w chwarae yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth."[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Norway gun suspect 'acted alone' BBC News. 24-07-2011
  2. Norway Bombing, Shooting Suspect Wanted a Revolution, Christian Post, 24-07-2011
  3. 3.0 3.1 Norway massacre: UK police offer help Archifwyd 2011-07-31 yn y Peiriant Wayback. The Independent on Sunday. Diana Pilington. 24-07-2011
  Eginyn erthygl sydd uchod am Norwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.