Papur newydd yn Ynys Manaw yw Yn Pabyr Seyr (Manaweg am "Y Papur Rhydd[1]) a gyhoeddir gan Mec Vannin,[2] mudiad sy'n ymgyrchu dros gael gweriniaeth yn Ynys Manaw a fyddai'n annibynnol ar y Deyrnas Unedig.

Yn Pabyr Seyr
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1990 Edit this on Wikidata
Yn Pabyr Seyr (2007)

Mae wedi cael ei gyhoeddi o leiaf dwy waith y flwyddyn ers 1990. Ceir archif ar-lein o'r hen gopïau. Er bod y teitl yn Fanaweg ac y ceir rhai erthyglau yn yr iaith Geltaidd honno, mae'r rhan fwyaf o'r cynnwys yn Saesneg.

Fel llais Mec Vannin, mae gogwydd y papur tua'r chwith ac mae'n feirniadol o gyfalafiaeth neo-geidwadol ar Ynys Manaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Geiriadur Manaweg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-23. Cyrchwyd 2021-02-23.
  2. Carn 2003 - Ta na focail thuas as eagran an Earraigh de Yn Pabyr Seyr, nuachtan Mhec Vannin. Sin pairti polaitiui! poblachtanach na tire sin (Mec Vannin, se sin Mic Mhanainne i nGaeilge - an gcreidfeadh sibh a 'Mhna na hEireann'?)

Dolen allanol golygu