Ynys King William

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys King William. Mae ganddi arwynebedd o 13,111 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif heb fod ymhell o dir mawr Canada, i'r gorllewin o Benrhyn Boothia ac i'r dwyrain o Ynys Victoria. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,064; y pentref mwyaf yw Gjoa Haven.

Ynys King William
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilliam IV, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PrifddinasGjoa Haven Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,064 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanadian Arctic Archipelago Edit this on Wikidata
LleoliadCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
SirNunavut Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd13,111 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr137 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau68.97°N 97.23°W Edit this on Wikidata
Hyd175 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Ynys King William

Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Mae'r ynys yn adnabyddus am ei phoblogaeth fawr o'r caribŵ, sy'n byw yma yn yr haf cyn mudo tua'r de ar draws y rhew yn yr hydref.