Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Komsomolets (Rwseg: остров Комсомолец). Hi yw'r fwyaf gogleddol o ynysoedd Severnaya Zemlya. Mae tua 146 km o hyd a 113 km o led, gydag arwynebedd o 9,006 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.

Ynys Komsomolets
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAll-Union Leninist Young Communist League Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSevernaya Zemlya Edit this on Wikidata
LleoliadMôr Kara Edit this on Wikidata
SirCrai Krasnoyarsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd9,006 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr935 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Kara, Môr Laptev Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau80.4842°N 94.9964°E Edit this on Wikidata
Hyd120 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Komsomolets

Gorchuddir tua 65% o'r ynys gan rew, gan gynnwys maes rhew mwyaf Rwsia. Enwyd yr ynys gan y fforwyr Rwsaidd Georgy Ushakov a Nikolay Urvantsev yn 1930-32, er anrhydedd i aelodau'r Komsomol, yr "Undeb Comiwnyddol Ieuenctid". Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Mariya ("Santes Fair").

Ynysoedd Severnaya Zemlya
Eginyn erthygl sydd uchod am Crai Krasnoyarsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.