Ynys oddi ar arfordir gorllewinol Canada yw Ynys Vancouver (Saesneg: Vancouver Island, yn flaenorol Island of Quadra and Vancouver). Mae'n rhan o dalaith British Columbia, ac mae'r boblogaeth tua 750,000.

Ynys Vancouver
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth775,347 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBritish Columbia Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd32,134 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel, Strait of Georgia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.6°N 125.5°W Edit this on Wikidata
Hyd460 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ynys yn 454 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 32,134 km2; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Hi yw'r ynys fwyaf ar arfordir gorllewinol Gogledd America. Mynydd Golden Hinde ydy mynydd uchaf yr ynys, 2,200m o uchder.[1] Gwahenir yr ynys o'r tir mawr gan Gulfor Georgia, Gulfor Queen Charlotte, Gulfor Johnstone a Chulfor Juan de Fuca. Mae sawl llyn ar yr ynys, gan gynnwys Llyn Nimpkish, Llyn Cowichan, Llyn Buttle, Llyn Sproat,, Llyn Great Central a Llyn Campbell.[2] Dinas fwyaf yr ynys yw Victoria, sydd hefyd yn brifddinas British Columbia.

Mae 5 y cant o boblogaeth yr ynys yn bobl brodorol, a siaredir ieithoedd Salishan a Wakashan o hyd.[2]

Hanes golygu

Daeth fforwyr o Sbaen, Ffrainc, Rwsia, Prydain a'r Unol Daleithiau i'r ynys yn ystod y 18g, gan gynnwys James Cook a George Vancouver.[2]

Ym 1843, penderfynodd Cwmni Bae Hudson i adeiladu caer, a thyfodd cymuned o gwmpas Caer Fictoria. Daeth yr ynys yn diriogaeth Prydeinig ar ôl Cytundeb Washington ym 1846. a daeth yn wladfa Prydeinig ym 1849. Daeth yn rhan o Golumbia Brydeinig ym 1866, a daeth Columbia Brydeinig yn rhan o Ganada ym 1871.[2]

Darganfuwyd glo ar yr yn y 1850au, ac roedd amaethyddiaeth yn bwysig ar dir isel y dwyrain, yn arbennig o gwmpas Duncan, Courtenay a Comox. Mae'r ynys yn nodweddiadol am ei fforest law gymedrol, ac adeiladwyd melinau coed ym Mhorth Alberni ac yn Chemainus.[2]

Cludiant golygu

 
Cwch yn pasio Campbell River a fferi tu ôl iddo

Adeiladwyd Rheilffordd Esquimault a Nanaimo ym 1886.

Mae Fferrïau BC yn cynnig rhwydwaith eang o wasanaethau rhwng Ynys Vancouver, y tir mawr ac ynysoedd llai'r ynysfor.[3]

Mae BC Transit yn cynnig gwasanaethau bws dros Columbia Brydeinig, gan gynnwys Ynys Vancouver.[4]

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Victoria yn ymyl Sidney, ar Benrhyn Saanich.[5] Mae meysydd awyr eraill yn Nanaimo , Campbell River, Porth Hardy a Comox. Yn ogystal, mae gwasanaethau awyrennau mor yn ddefnyddio'r porthladdoedd a llynnau.

Cyfeiriadau golygu