Ynys ym Môr Hafren yw Ynys Wair (Saesneg: Lundy neu Lundy Island). Fe'i gweinyddir fel rhan o Ardal Torridge yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr. Hi ydyw ynys fwyaf Môr Hafren - mae hi tua 4.5 km o hyd (o'r gogledd i'r de) a thua 1 km o led. Ynys Wair ydyw'r unig warchodfa natur forol yn Lloegr. Mae 18 o bobl (yn 2006) yn byw ar yr ynys, y rhan fwyaf mewn pentre bach yn y rhan ddeheuol. Ceir hen oleudy yno.

Ynys Wair
Mathynys, microgenedl, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Torridge
Poblogaeth28 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMôr Hafren Edit this on Wikidata
SirDyfnaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd4.25 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Celtaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.18°N 4.67°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04003303 Edit this on Wikidata
Hyd4.5 cilometr Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethWilliam Hudson Heaven, Hudson Grosett Heaven Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r llong MS Oldenburg yn dod â theithwyr i'r ynys tuag at bum gwaith bob dydd yn ystod yr haf. Mae 23 o fythynnod ar gael i deithwyr i'r ynys.[1]. Gwelir tua 140 rhywogaeth o adar ar yr ynys, ac mae hyd at 35 ohonynt yn nythu yno.[2]

Perchnog yr ynys yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gwarantwyd y pwrcas gan yr Ymddiriedolaeth Landmark, a chyfrannodd Jack Hayward £150,000 at y cost. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Landmark i adfer yr adeiladau ac yn sicrhau bod yr ynys ar gael i'r cyhoedd. Cyblhawyd y gwaith papur ar 29ain Medi 1969.[3]

Eglwys Santes Helen
Yr hen oleudy

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddyfnaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.