Ynys y Barri

tref glan môr a chymuned

Ardal, penrhyn a thref glan môr yw Ynys y Barri (Saesneg: Barry Island) sy'n ffurfio rhan o dref Y Barri ym Mro Morgannwg. Fe'i henwyd ar ôl y Sant o'r 6g Sant Barrwg. Mae gan arfordir Barri, ar Fôr Hafren, amrediad llanw o 15 metres (49 ft),[1] yr ail fwyaf yn y byd ar ôl Bae Fundy yn Nwyrain Canada.[2]

Ynys y Barri
Mathynys, cyrchfan lan môr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliady Barri Edit this on Wikidata
Siry Barri Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawMôr Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.392°N 3.275°W Edit this on Wikidata
Cod postCF62 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Roedd y penrhyn yn ynys nes yr 1880au pan y cysylltwyd a'r tir mawr wrth i dref Barri dyfu. Roedd hyn yn rhannol oherwydd agor Dociau'r Barri gan Gwmni Rheilffordd y Barri. Sefydlwyd y dociau gan David Davies ac mae'r dociau nawr yn llenwi'r bwlch a oedd yn arfer ffurfio Ynys y Barri.

Er bod Ynys y Barri yn arfer bod yn gartref i wersyll gwyliau Butlins, mae nawr yn fwy adnabyddus am ei draeth a Pharc Pleser Ynys y Barri.

Hanes golygu

Cynhanes golygu

Mae'r ardal o gwmpas Ynys y Barri yn dangos tystiolaeth helaeth o anheddu gan fodau dynol. Mae arfau fflint microlith o'rMesolithig neu Ganol Oes y Cerrig wedi eu canfod ger Friars Point ar Ynys y Barri a ger Gwenfô,[3] a darganfuwyd pennau bwyell cerrig gloyw o'r Neolithig neu Oes Newydd y Cerrig ym mhentref Saint Andras.[4] Am fod yr ardal yn goediog iawn a byddai mudo wedi bod yn rhwystredig, mae'n debyg y bod pobl wedi cyrraedd i'r hyn a ddaeth yn Gymru ar gwch, yn debygol o Benrhyn Iberia.[5] Fe gliriwyd y coedwigoedd ganddynt i sefydlu porfeydd ac i ffermio'r tir.

Fe wnaeth y mewnfudwyr neolithig yma, a ymdoddodd a'r bobl gynhenid, newid o fod yn helwyr-gasglwyr i fod yn ffermwyr sefydlog. Fe adeiladon y siambrau claddu hir yn Llwyneliddon a Tinkinswood, sy'n dyddio i tua 6,000 CP, dim ond tua 3 miles (4.8 km) a 4 miles (6.4 km) yn ôl eu trefn, i'r gogledd o Ynys y Barri.[6]

Diwylliannau newydd golygu

Yn gyffredin gyda phobl yn byw ar draws wledydd Prydain yn gyfan, dros y canrifoedd fe gymhathwyd y boblogaeth leol gyda mewnfudwyr a chyfnewidiwyd syniadau gyda diwylliannau Oes yr Efydd a Oes yr Haearn Celtaidd. Ymgartrefodd llwyth Brythonaidd Celtaidd o'r enw y Silwriaid yn Ynys y Barri ynghyd a'r rhan helaeth o Dde Cymru. Cofnodwyd pum tomen gladdu Oes yr Efydd neu garneddau, ar Friars Point.[7]

Er na wnaeth y meddiannaeth Rhufeinig adael unrhyw argraff amlwg ar Ynys y Barri, roedd anheddau Rhufeinig-Prydeinig gerllaw yn Y Barri a Llandochau. Fe gofleidiodd y bobl yma'r crefydd Rufeinig o Gristnogaeth a chysegrwyd capel i Sant Barrwg, disgybl i Sant Cadog. Ar ôl anghofio dod a deunydd darllen Sant Cadog gydag e, ar daith o Ynys Echni, danfonodd Sant Barrwg e nôl a boddodd ym Môr Hafren ar y daith yn ôl. Fe'i claddwyd ar Ynys y Barri a gellir gweld adfeilion y capel a gysegrwyd iddo ar Friars Road. Ei ddydd gŵyl yw 27 Medi.

Ymosododd y Llychlynwyr ar yr ardal ac roedd Ynys y Barri yn cael eu hadnabod fel man cychwyn ymosodwyr yn 1087.[8]

Gerallt Gymro golygu

 
Traeth Bae Whitmore

Disgrifiodd y cronicler o dras Normanaidd Gerallt Gymro darddiad ei enw teuluol 'de Barri' yn Ffrangeg yn 'Teithlyfr Archesgob Baldwin drwy Gymru' (hefyd adwaenir fel 'Y Daith drwy Gymru'). Ysgrifennodd "Ddim yn bell o Gaerdyf mae ynys fechan ger glan yr Hafren, o'r enw Barri o Sant Baroc oedd arfer byw yno, a rhoddwyd ei weddillion mewn arch mewn capel wedi ei orchuddio ac eiddew. Ac felly fe wnaeth teulu bonheddig, o ardal arforol De Cymru, oedd yn berchen ar yr yr ynys hon a'r ystadau cyfagos, dderbyn yr enw de Barri."[9] Aeth yn ei flaen i ddisgrifio ffynnon yr ynys:[10] "Mae'n rhyfeddol fod, mewn carreg ger mynediad yr ynys, mae gwagle bychan lle, os clustfeiniwch, fe allwch glywed sŵn fel gof wrth ei waith, meginau'n chwythu, morthwylioyn yn taro, offer yn rhygnu a ffwrneisi'n rhuo; a gellid dychmygu yn hawdd fod y synau, sy'n parhau ar lanw a thrai'r dŵr, wedi ei achosi gan fewnlif y môr o dan wagleoedd y creigiau.

Mae nifer o bobl leol yn credu yn hytrach ei fod yn ysbryd arwr lleol maen nhw'n ei alw Benedict y Diffoddwr neu yn Saesneg 'Benedict the Fighter'. Dywedir fod ei long, y Tam Lyn, wedi ei oresgyn gan fôr-ladron Sbaenaidd a bron ar ben ei hun fe lwyddodd i ymladd a lladd y giwed o fôr-ladron i gyd, hyd yn oed ar ôl iddynt ladd ei griw. Wedyn llwyddodd i hwylio'r llong yn ôl i'r harbwr lle croesawyd fel arwr. Maen nhw'n dweud ei fod wedi ymladd nifer o fôr-ladron arall yn ystod sawl mordaith, a bu farw yn y pendraw ar ôl cael ei ddal mewn storm fawr ar yr arfordir, lle difrodwyd ei long yn sylweddol a suddodd i waelod y môr.

Mae'r bobl leol sy'n dal i gredu chwedl Benedict yn hawlio fod eu amddiffynnydd yn parhau yn ardaloedd creigiog arfordir y de, yn gwarchod y trigolion rhag ymosodiadau gan estroniaid".[9] Mae rhifyn Everyman 1908 o'r gyfrol yn cynnwys disgrifiad byr o Ynys Y Barri gan y mynach Urdd Sant Benedictine Hugh Paulinus de Cressy (c.1605–1674): "Mae Ynys y Barri wedi ei leoli ar arfordir Sir Forgannwg, ac yn ôl Cressi, cymerodd ei enw o Sant Baruc, y meudwy, a oedd yn byw yna ac sydd wedi ei gladdu yna. Dywedir fod y Barrys yn Iwerddon, ynghyd â theulu Giraldus, oedd yn arglwyddi'r ynys, wedi benthyg ei enw o'r ynys. Wrth sôn am yr ynys, mae John Leland, yn dweud, 'The passage into Barrey isle at ful se is a flite shot over, as much as the Tamise is above the bridge. At low water, there is a broken causey to go over, or els over the shalow streamelet of Barrey-brook on the sands. The isle is about a mile in cumpace, and hath very good corne, grasse, and sum wood; the ferme of it worth aio a yere. There ys no dwelling in the isle, but there is in the middle of it a fair little chapel of St Barrok, where much pilgrimage was usid.'"[9] Ychwanegodd y Golygydd, Ernest Rhys, yn 1908: "Mae'r 'capel fach deg' wedi diflannu a mae 'Ynys y Barri' nawr, ers adeiladu y doc mawr, wedi ei gysylltu gyda'r tir mawr, wedi ei orchuddio gyda tai ac amcangyfrir ei werth nawr tua £250,000."[9]

Yr oes hon golygu

 
Reid The Evolution ym Mharc Pleser y Barri

Hyd at 1896 pan gwblhawyd llinell rheilffordd gyda'r tir mawr dros bier 250-llath o hyd, yr unig fynediad i Ynys y Barri oedd naill ai ar droed dros y tywod a'r mwd ar lanw isel, neu pan oedd y llanw mewn, ar bacedlong Yellow Funnel Line. Gorsaf reilffordd Ynys y Barri yw gorsaf derfynol llinell Bro Morgannwg ac yn cysylltu i Gaerdydd, tua 9 mile (14 km) i'r gogledd-ddwyrain o'r Barri. Datblygwyd atyniadau pellach ar yr ynys, ac erbyn 1934 roedd y nifer o ymwelwyr a'r ffair dros wythnos Gŵyl y Banc dros 400,000.

 

Gwasgarwyd llwch Fred West, y llofrudd cyfresol Prydeinig, ar Ynys y Barri ar ôl amlosgi ei gorff ar 29 Mawrth 1995.[11] Bu farw'r llafnroliwr a brodor o'r Barri, Rich Taylor ar ôl damwain sglefrio ar stryd yn y Bari ar 2 Awst 2004.

Ar 25 Gorffennaf 2008, daeth un o wyliau haf Radio 1 i Ynys y Barri, gan ddarlledu rhifyn arbennig o sioe Scott Mills yn fyw o'r ynys fel rhan o thema reolaidd y sioe "Barryoke" gyda chaneuon fel "Smooth Barry", fersiwn o'r gân "Smooth Criminal" gan Michael Jackson yn disgrifio taith o Ynys y Barri.[12]

Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, oedd yn cynnwys gwyriad byr lle mae'r llwybr yn mynd o amgylch Ynys y Barri cyn parhau i'r gorllewin tuag at Lanilltud Fawr.[13]

Gwersyll gwyliau golygu

 
Cabanau gwyliau

Gwersyll gwyliau oedd Butlins Ynys y Barri a agorwyd yn 1966. Gwerthwyd i Majestic Holidays yn yr wythdegau. Caewyd yn 1996, ac erbyn hynny yn cael ei adnabod fel The Barry Island Resort ers naw mlynedd.

Ffilm a Ynys y Barri golygu

 
Marco's Cafe, Ynys y Barri, a ddefnyddiwyd yn Gavin & Stacey

Defnyddiwyd y gwersyll gwyliau i ffilmio golygfeydd y gwersyll "Shangri-La" yn stori Doctor Who, Delta and the Bannermen. Roedd yr ynys hefyd yn lleoliad yng nghyfres 2005 o Doctor Who ar gyfer y penodau "The Empty Child" a "The Doctor Dances", yn sefyll mewn am safle bomio yn Llundain 1941.

Lleolwyd a ffilmiwyd cyfres deledu'r BBC, Gavin & Stacey yn y Barri.

 
Caesar's Palace
 
Blaen siopau

Defnyddiwyd yr ynys fel lleoliad Pleasure Park ar ITV Wales oedd yn rhan o gyfres ffilmiau byr It's My Shout. Defnyddiwyd rhannau o'r ynys yn cynnwys y Parc Pleser yn stori The Mad Woman in the Attic, rhan o drydedd cyfres y Sarah Jane Adventures.

Lleolwyd a ffilmiwyd y drydedd, pedwerydd a pumed gyfres o gyfres uwch-naturiol y BBC, Being Human yn y Barri (lleolwyd y gyfres yn wreiddiol ym Mryste cyn i'r cymeriadau canolog orfod ail-leoli ar ôl yr ail gyfres), a darlledwyd y cyfresi yn 2011, 2012 a 2013.

Ffilmwyd rhai darnau o Submarine yn Y Barri.

Mae'r gân "Warship Class" o albwm 2008 gan Silvery wedi ei osod yn iard sgrap Woodham Brothers ac yn crybwyll Ynys y Barri.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "BBC website". Making a splash: the Severn Bore. BBC. 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-15. Cyrchwyd 9 September 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Severn Estuary". Joint Nature Conservation Committee. 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-29. Cyrchwyd 9 September 2008.
  3. G Dowell (1971). Archaeology in Wales Volume 11 pp. 10–11. Council for British Archaeology.
  4. H. N. Savory (1948–50). Axes of Pembrokeshire Stone from Glamorganshire Volume XIII pp. 245–6. Board of Celtic Studies.
  5. "Genes link Celts to Basques". BBC News website. BBC. 3 April 2001. Cyrchwyd 5 August 2008.
  6. "St Lythans Chambered Long Cairn, Maesyfelin; Gwal-y-Filiast". The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales website. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. 26 July 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-23. Cyrchwyd 8 August 2008.
  7. "FRIAR'S POINT MOUND (CAIRN III)". The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales website. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. 26 July 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-23. Cyrchwyd 11 September 2008.
  8. "Times Past". Barry Town Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-07-21. Cyrchwyd 10 April 2007.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 "BARRY ISLAND, WELL SITE" (PDF). The Itinerary through Wales and The Description of Wales, by Giraldus Cambrensis, Everyman's Library, Edited by Ernest Rhys, with an Introduction by W. Llewelyn Williams, January 1908. University of Toronto. 2008. Cyrchwyd 14 September 2008. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  10. "BARRY ISLAND, WELL SITE". The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales website. The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. 2008. Cyrchwyd 14 September 2008.[dolen marw]
  11. "There's more to our Barry Island than a TV comedy". Wales Online. Cyrchwyd 3 August 2013.
  12. "BBC – Radio 1 – Summer 2008 – Barry Island". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-31. Cyrchwyd 25 July 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  13. Barry Island Archifwyd 2012-07-31 yn y Peiriant Wayback., Dai Davis, BarryIsland.org, Accessed on 5 August 2012.