Gwleidydd Japaneaidd yw Yoshihide Suga (菅 義偉 Suga Yoshihide, [sɯɡa joɕiꜜçide]; ganed 6 Rhagfyr 1948) a oedd Brif Weinidog Japan o Fedi 2020 i Hydref 2021. Gwasanaethodd yn Brif Ysgrifennydd y Cabinet yn llywodraeth y Prif Weinidog Shinzo Abe o 2012 i 2020, ac yn Weinidog dros Faterion Mewnol a Chyfathrebu o 2006 i 2007.

Yoshihide Suga
Y Prif Weinidog Yoshihide Suga yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ar 16 Medi 2020.
Ganwyd6 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata
Akinomiya Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Hosei
  • Q11595480 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Ysgrifennydd y Cabinet, Minister of Internal Affairs and Communications, President of the Liberal Democratic Party, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadWasaburō Suga Edit this on Wikidata
PriodMariko Suga Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Aur yr Olympiad Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sugayoshihide.gr.jp/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed i deulu o ffermwyr mefus yn nhalaith Akita, ac wedi iddo raddio o'r ysgol uwchradd symudodd Suga i Tokyo i astudio ym Mhrifysgol Hosei.[1] Graddiodd gyda gradd baglor yn y gyfraith ym 1975 a gweithiodd yn gynorthwywr i Hikosaburo Okonogi, un o aelodau Tŷ'r Cynrychiolwyr. Ym 1987 etholwyd Suga i Gynulliad Dinesig Yokohama.[2] Etholwyd Suga i Dŷ'r Cynrychiolwyr yn etholiad cyffredinol 1996 i gynrychioli'r 2il Etholaeth Talaith Kanagawa fel aelod o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō).

Yn ystod ei gyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghreiriodd Suga â Shinzo Abe, Prif Ysgrifennydd y Cabinet o 2005 i 2006 yn llywodraeth Junichiro Koizumi. Wedi i Abe gymryd awenau'r brifweinidogaeth ac arweinyddiaeth Jimintō ym Medi 2006, fe benododd Suga yn Weinidog dros Faterion Mewnol a Chyfathrebu. Bu Suga yn y swydd honno nes i Yasuo Fukuda olynu Abe ym Medi 2007. Yn sgil buddugoliaeth Jimintō yn etholiad cyffredinol 2012, penodwyd Suga yn Brif Ysgrifennydd y Cabinet yn ail lywodraeth Shinzo Abe.[3] Bu yn y swydd am wyth mlynedd ac yn Brif Ysgrifennydd y Cabinet am y cyfnod hiraf yn hanes gwleidyddol Japan. Datganodd Abe yn Awst 2020 ei fod am ymddiswyddo am resymau iechyd, ac ymgyrchodd Suga am arweinyddiaeth Jimintō. Enillodd Suga etholiad y blaid ar 14 Medi gyda 70% o'r bleidlais, ac ar 16 Medi fe'i etholwyd yn Brif Weinidog Japan yn ffurfiol gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i penodwyd gan yr Ymerawdwr Naruhito. Suga yw prif weinidog cyntaf yr oes Reiwa, sef teyrnasiad Naruhito.[4]

Datganodd y Prif Weinidog Suga y byddai'n parhau â pholisïau ac amcanion llywodraeth Abe, gan gynnwys y rhaglen economaidd a elwir "Abenomeg", adolygu Erthygl 9 Cyfansoddiad Japan (sydd yn gwahardd lluoedd arfog), a chynnal trafodaethau i ryddhau dinasyddion Japaneaidd a herwgipiwyd gan lywodraeth Gogledd Corea.[5]

Ar 3 Medi 2021 cyhoeddodd Suga nad oedd am ymgeisio i'w gael ei ail-ethol yn arweinydd ei blaid y mis hwnnw, ac felly byddai'n ildio'r swydd honno a'r brif weinidogaeth ymhen mis.[6] Ar 29 Medi etholwyd Fumio Kishida i olynu Suga, a chymerodd Kishida yr awenau ar 4 Hydref 2021.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Who is Yoshihide Suga, Japan's next prime minister?". Mainichi Shimbun. 14 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Medi 2020. Cyrchwyd 1 Ionawr 2021.
  2. (Saesneg) "Japan's Next Prime Minister Emerges From Behind the Curtain". The New York Times. 14 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Medi 2020. Cyrchwyd 1 Ionawr 2021.
  3. (Saesneg) "The Key Government Post of Chief Cabinet Secretary". nippon.com. 27 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2020. Cyrchwyd 1 Ionawr 2021.
  4. (Saesneg) Sieg, Linda (29 Awst 2020). "In race to replace Japan's Abe, loyalist Suga emerges as strong contender". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Awst 2020. Cyrchwyd 1 Ionawr 2021.
  5. (Saesneg) Rich, Motoko; Inoue, Makiko; Dooley, Ben (14 Medi 2020). "Japan's Next Prime Minister Emerges From Behind the Curtain". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Medi 2020. Cyrchwyd 1 Ionawr 2021.
  6. (Saesneg) Peter Landers, "Japan’s Prime Minister Yoshihide Suga to Step Down", The Wall Street Journal (3 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Medi 2021.
  7. (Saesneg) "Fumio Kishida: Japan's new prime minister takes office", BBC (4 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Hydref 2021.