Yousaf Raza Gillani

Prif Weinidog Pakistan oedd Yousaf Raza Gillani (ganed 9 Mehefin, 1952). Roedd yn cynrychioli Plaid Pobl Pakistan (PPP), plaid y diweddar Benazir Bhutto. Roedd yn Brif Weinidog rhwng 25 Mawrth 2008 a 26 Ebrill 2012, pan olynodd Muhammad Mian Soomro o Cynghrair Mwslimaidd Pacistan. Gillani oedd 24ain Prif Weinidog Pacistan.

Yousaf Raza Gillani
Ganwyd9 Mehefin 1952 Edit this on Wikidata
Karachi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPacistan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Forman Christian College
  • Coleg Prifysgol y Llywodraeth
  • Prifysgol Punjab Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Pacistan, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Pacistan, Speaker of the National Assembly of Pakistan Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Pobl Pacistan Edit this on Wikidata

Ei weinidogaeth golygu

Un o'r problemau mwyaf y bu'n rhaid i Gillani wynebu pan gymerodd drosodd oedd gwrthryfel cynyddol fwy agored Taliban Pacistan. Gyda'r Taliban a'u cynghreiriaid yn rheoli ardal dyffryn Swat, sy'n cyrraedd o fewn 100 milltir o Islamabad, a rhannau eraill o'r NWFP, daeth Gillani dan bwysau aruthrol gan Barack Obama, Arlywydd UDA, i gymryd camrau llym. Ar ddiwedd mis Ebrill 2009 dechreuodd ymladd rhwng Byddin Pacistan a gwrthryfelwyr yn nosbarthau Dir a Swat. Dwyshaodd yr ymladd gyda'r fyddin yn ceisio disodli'r Taliban o Swat. Ar 7 Mai 2009 gorchmynodd Gillani i'r Fyddin "i ddileu'r tefysgwyr" yn Swat.[1]

Cyfeiriadau golygu