Yr Eglwys Farmor

eglwys ym Modelwyddan, gogledd Cymru

Eglwys ym Modelwyddan, Sir Ddinbych yw'r Eglwys Farmor neu Eglwys y Santes Fererid, Bodelwyddan, sy'n nodwedd amlwg yn nhirwedd Dyffryn Clwyd a welir o bell. Mae'n gorwedd ger priffordd yr A55. Mae'n cael ei hadnabod yn lleol fel 'Yr Eglwys Farmor' am iddi gael ei hadeiladu o farmor gwyn yn bennaf ac 14 math arall, gan gynnwys marmor Môn.

Yr Eglwys Farmor
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBodelwyddan Edit this on Wikidata
SirBodelwyddan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr16.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2668°N 3.49484°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iMererid o Antiochia Edit this on Wikidata
Manylion
Yr Eglwys Farmor

Hanes a disgrifiad golygu

Codwyd yr eglwys gan yr Arglwyddes Willoughby de Broke er cof am ei gŵr, Henry Peyto-Verney, 16eg Barwn Willoughby de Broke. Gosododd hi'r garreg sylfaen ar 24 Gorffennaf 1856 a chafodd yr eglwys newydd, a gynlluniwyd gan y pensaer John Gibson, ei gysegru gan Esgob Llanelwy ar 23 Awst 1860. Costiodd y gwaith adeiladu £22,000.[1] Mewn canlyniad, crewyd plwyf newydd Bodelwyddan ar 3 Awst 1860, o gymunedau bychain Bodelwyddan, Faenol a Phengwern, a fuont tan hynny yn rhan o blwyf Llanelwy.[2]

Mae'r eglwys wen drawiadol yn cynnwys pileri o farmor coch Belgaidd oddi mewn, ac mae'r mynedfa i gorff yr eglwys wedi'i gwneud o farmor o Ynys Môn. Mae'r tŵr yn cynnwys ffenestri gwydr lliw o'r Santes Fererid o Antiochia a Sant Cyndeyrn.[3]

Mynwent yr eglwys golygu

Mae'r fynwent yn cynnwys bedd Elizabeth Jones, mam yr arloeswr Fictoraidd enwog, Syr Henry Morton Stanley. Yn ychwanegol, gorwedd cyrff 83 o filwyr o Ganada yn y fynwent. Bu farw rhai o'r milwyr hyn o Wersyll Parc Cinmel ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd y ffliw, ond credir bod rhai o'r claddedigion yn filwyr a saethwyd ar ôl miwtini yn y gwersyll ar Fawrth 5ed, 1919.[4]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The Gentleman's Magazine and Historical Review: Vol 10; Sylvanus Urban, 1861, t.156
  2.  Bodelwyddan - St. Margaret.
  3. The Ecclesiologist; The Ecclesiological Society, Chwefror 1859, t. 350
  4. Yr Eglwys Farmor, gwefan BBC Cymru.

Dolenni allanol golygu