Yr Eglwys Forafaidd

Enwad Protestannaidd yw'r Eglwys Forafaidd, yn ffurfiol Unitas Fratrum (Lladin am "Undod y Brawdolion"),[1][2][3] neu yn Almaeneg [Herrnhuter] Brüdergemeine[4] ("Undod Brawdolion [Herrnhut]"). Dyma un o'r eglwysi Protestannaidd hynaf yn y byd, sydd yn olrhain ei hanes i'r Diwygiad Bohemaidd yn y 15g drwy hawlio llinach o Undod y Brawdolion (Tsieceg: Jednota bratrská) a sefydlwyd yn Nheyrnas Bohemia ym 1457. Rhoddwyd yr enw "Morafaidd" ar yr eglwys yn sgil ei hadfywiad yn y 18g, wedi i aelodau Undod y Brawdolion ffoi i Sacsoni, yn enwedig Herrnhut, ym 1722 i ddianc erledigaeth grefyddol ym Morafia. Mae gan yr Eglwys Forafaidd ryw un miliwn o aelodau ar draws y byd yn yr 21g.[5] Mae traddodiadau'r Morafiaid yn tynnu'n gryf ar adfywiad y 18g ac yn pwysleisio eciwmeniaeth, duwioldeb personol, cenhadaeth, a cherddoriaeth. Arwyddlun yr Eglwys Forafaidd yw Oen Duw (Agnus Dei) gyda baner buddugoliaeth a'r arysgrif Lladin "Vicit agnus noster, eum sequamur".

Yr Eglwys Forafaidd
Ffenestr liw o Oen Duw yn Eglwys Forafaidd Capel Iawnderau'r Drindod yn Winston-Salem, Gogledd Carolina, UDA.
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol, Christian missionary society Edit this on Wikidata
Rhan oProtestaniaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEuropean Continental Province of the Moravian Church Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEvangelical Missions Agency, Evangelischer Posaunendienst in Deutschland Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.moravian.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Moravian History" (yn Saesneg). Moravian Church of the British Province. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2016. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
  2. (Saesneg) "Unitas Fratrum". Unitasfratrum.org. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020. Unitas Fratrum, the Worldwide Moravian Church consists of Unity Provinces, Mission Provinces, Mission Areas and certain areas of work which are the responsibility of the Moravian Unity as a whole.
  3. (Saesneg) "The Unity of the Brethren". Christianity Today (yn Saesneg). 1987. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
  4. (Almaeneg) "Herzlich willkommen". Ebu.de (yn Almaeneg). Evangelische Brüder-Unität - Herrnhuter Brüdergemeine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-11. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
  5. (Saesneg) "Welcome to the Moravian Church". The Moravian Church British Province. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.