Mae'r Eglwys Newydd (Saesneg Whitchurch) yn un o faestrefi hynaf Caerdydd. Lleolir tua 3 milltir i'r gogledd o ganol y dref ar bwys y ffordd A470 a'r A4054. Roedd poblogaeth o 15,649 yn 2004. Mae'r faesdref yn rhan o ward Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais.

Yr Eglwys Newydd
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.52°N 3.22°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000866 Edit this on Wikidata
Map
Ysbyty'r Eglwys Newydd

Hanes golygu

Mae'r cyfanned yn ddyddio'n ôl i'r 12g, pan sefydlwyd eglwys Santes Fair gan offeiriad o Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yr enw cynharaf a wyddwn amdano oedd Ystum Taf (neu Stuntaf yn Saesneg).

Dim ond tua 300 o bobl oedd yn byw yno ar droad yr 18g, erbyd diwedd yr 19g roedd y boblogaeth wedi codi'n aruthrol i 5,000. Ffurfiwyd Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd yn 1845. Rhwng 1951 a 1961, cododd y boblogaeth o 19,827 i 27,325. Llyncwyd y rhan fwyaf o'r plwyf (heblaw Tongwynlais) yn rhan o ddinas Caerdydd erbyn 1967.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Eglwys Newydd (pob oed) (14,267)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Eglwys Newydd) (2,109)
  
15.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Eglwys Newydd) (11099)
  
77.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Yr Eglwys Newydd) (2,260)
  
36.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu