Yr Wyddfa

mynydd uchaf Cymru

Yr Wyddfa yw Mynydd uchaf Cymru, ac hefyd mynydd uchaf Ynys Prydain i'r de o Ben More[1], (1,085 m/3,560 troedfedd) ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd.

Yr Wyddfa
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,085 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.068864°N 4.075589°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6098954379 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd1,039 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaBen Nevis Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Mae trên bach Rheilffordd yr Wyddfa yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa mae Hafod Eryri: canolfan ymwelwyr a thŷ bwyta a agorwyd yn 2009.

Mae tua 591,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn,[2] a thua 140,000 arall yn cyrraedd y copa ar y trên bach.[3] Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Iwerddon (y Weriniaeth a'r Gogledd), Ynys Manaw, yr Alban, a Lloegr. Yr olygfa bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne'r Alban, pellter o 144 milltir (232 km). Gellir ei gweld o Bleaklow yn y Peak District weithiau hefyd, pellter o 96 milltir.[4]

Yr enw golygu

 
Yr Wyddfa o Nant Gwynant

Yn ôl Bedwyr Lewis Jones, daw'r enw o "gŵydd" ("carnedd") gyda "ma" ("lle") wedi ei gydio wrtho i roi "Gwyddfa". Oherwydd bod "gwyddfa" yn enw cyffredin, rhoddir "yr" o'i flaen i roi "Yr Wyddfa". Yn ôl traddodiad, bedd Rhita Gawr oedd y garnedd. Er nad oes olion yn weddill bellach, mae'n bosibl fod carnedd o Oes yr Efydd wedi bod ar y copa cyn codi'r adeiladau cyntaf o'r cyfnod diweddar yno. Yn ôl Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, fodd bynnag, ystyr "gŵydd" ydy 'yr hyn a fedrir ei weld o bell'; sydd hefyd yn golygu 'man claddu'.[5] Fe'i ceir gyntaf yn y 13g.

Mae'r enw Saesneg Snowdon yn tarddu o'r Eingl-Sacsoneg 'snow' a 'dun' sef mynydd neu gaer yn yr eira, er bod arwynebedd yr eira wedi lleihau yn ystod y gaeafoedd diweddar.[6] Y fersiwn cynharaf o'r gair ydy "Snawdune" (1095).

Ar 17 Hydref 2022 pleidleisiodd awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i fabwysiadu’n ffurfiol y defnydd o'r enw Cymraeg fel enw swyddogol y mynydd yn Gymraeg a Saesneg.[7]

Daearyddiaeth a daeareg golygu

Fel y rhan fwyaf o fynyddoedd Eryri, ffurfiwyd creigiau'r Wyddfa yn y cyfnod Ordoficaidd. Yr unig eithriad yw Moel Eilio, y ffurfiwyd ei chreigiau yn y cyfnod Cambriaidd. Creigiau folcanig yw llawer o greigiau'r Wyddfa. Gellir cael hyd i gregyn ffosil ar y copa ambell dro. Mae llawer o'r creigiau yn rhai folcanig, ond nid oes tystiolaeth i'r Wyddfa ei hun fod yn llosgfynydd.

Effeithiwyd ar y mynydd gan rewlifoedd yn ystod Oes yr Iâ, pan grëwyd cymoedd megis Cwm Llan, Cwm Du'r Arddu a Chwm Clogwyn gan y rhew. I'r dwyrain o'r copa gellir gweld enghraifft glasurol o gyfres o gymoedd a grëwyd gan y rhew, un uwchben y llall: Glaslyn Uchaf, Cwm Glaslyn, Cwm Llydaw a Chwm Dyli.[8]

 
Yr Wyddfa, yn nyffryn Llanberis

Cribau a chopaon golygu

 
Yr Wyddfa o lethrau uchaf Glyder Fawr. Y Lliwedd ar y chwith, Crib Goch yn y canol, copa'r Wyddfa i'r dde a Charnedd Ugain ar y dde eithaf.

O gwmpas copa'r Wyddfa mae chwe chefnen hir. Nodweddir y llethrau sy'n wynebu'r gogledd a'r dwyrain gan glogwynau serth ond mae'r llethrau sy'n wynebu'r de a'r gorllewin yn tueddu i fod yn llai serth a chreigiog ac yn fwy agored a glaswelltog. Rhwng y cefnennau mae cymoedd wedi eu llunio yn ystod Oes yr Iâ, rhai ohonynt â llynnoedd ynddynt. Yr uchaf o'r mynyddoedd o amgylch yr Wyddfa yw Carnedd Ugain (1,065 m), Crib Goch (923 m), Y Lliwedd (898 m) a'r Aran (747 m).

Y ddwy grib uchaf yw'r grib sy'n arwain tua'r dwyrain dros Garnedd Ugain a Chrib Goch, a'r grib sy'n arwain tua'r de-ddwyrain o gopa'r Wyddfa ei hun dros Fwlch y Saethau i gopa'r Lliwedd. Mae'r ddwy grib yma yn amgylchynu Cwm Dyli. Mae'r grib hiraf yn ymestyn tua'r gogledd-orllewin o'r copa, dros Fwlch Cwm Brwynog i Foel Cynghorion (674 m), yna dros Foel Goch a Foel Gron i gopa Moel Eilio (726 m). Yr ochr arall i Gwm Brwynog mae crib yn ymestyn tua'r gogledd o'r copa tua Llanberis, gyda chlogwyni serth ar yr ochr ddwyreiniol i lawr i Fwlch Llanberis. Ar hyd y grib yma y mae Rheilffordd yr Wyddfa yn esgyn.

Mae crib arall yn arwain tua'r de dros Fwlch Main, ar hyd Allt Maen-deryn a thros Fwlch Cwm Llan i gopa yr Aran, gyda Cwm Llan ei hun rhwng y grib yma a'r Lliwedd.

Llynnoedd ac afonydd golygu

 
Llyn Glaslyn, gyda Llyn Llydaw yn y cefndir

Ceir cryn nifer o lynnoedd mawr a bach yn y cymoedd ar ochrau'r Wyddfa. Y mwyaf o'r rhain yw:

O gwmpas y llethrau isaf ceir llynnoedd eraill: Llyn Padarn, Llyn Peris, Llyn Gwynant, Llyn Cwellyn a Llyn y Gadair.

Mae nifer o afonydd yn tarddu ar yr Wyddfa, yn eu plith Afon Glaslyn, sy'n tarddu yn Llyn Glaslyn ac yn llifo trwy Llyn Llydaw ac i lawr i Nant Gwynant. Ym mhentref Beddgelert mae Afon Colwyn, sy'n tarddu ar lethrau Yr Aran ar ochr ddeheuol yr Wyddfa yn ymuno â hi. Ymhellach i'r gogledd-orllewin mae'r nentydd yn llifo i mewn i Afon Gwyrfai, tra mae'r nentydd ar yr ochr ddwyreiniol yn llifo i Nant Peris ac yn y pen draw i Afon Seiont.

Tywydd golygu

Mae llethrau'r Wyddfa yn un o'r lleoedd gwlypaf yng Nghymru ac ym Mhrydain, gyda chyfartaledd o dros 4,500 mm (180 modfedd) o law y flwyddyn. Ceir eira yn aml ar y llechweddau uchaf yn yr hydref, gaeaf a'r gwanwyn, a gall orwedd hyd fis Mehefin mewn ambell gwm cysgodol sy'n wynebu tua'r gogledd. Fodd bynnag mae'r eira ar yr Wyddfa wedi gostwng fwy na 55% ers 1994.

Bywyd Gwyllt golygu

 
Coedwig a llechweddau moel yn Nant Gwynant; llechweddau'r Wyddfa ar y dde, Llyn Gwynant yn y canol.

Yn wreiddiol roedd coedwigoedd yn tyfu ar y rhan fwyaf o lethrau'r Wyddfa, heblaw y llethrau uchaf un a'r mannau creigiog. Y rhywogaethau nodweddiadol oedd derw, ynn, bedw, cyll a chriafolen. Erbyn hyn mae'r coed wedi diflannu oddi ar y rhan fwyaf o'r llethrau, ac mae pori gan ddefaid a geifr gwyllt yn eu cadw yn laswelltir. Dim ond ar y llethrau isaf yn Nant Gwynant y mae ychydig o goedwig naturiol yn weddill. Ar un adeg, yn ôl Edward Lhuyd, roedd y goedwig mor drwchus yn Nant Gwynant fel y gallai dyn ar geffyl gwyn farchogaeth o Lyn Dinas i Ben-y-gwryd heb fod yn weladwy ond mewn dau le.

Ar y clogwyni lle na all y defaid gyrraedd, yn arbennig ar Glogwyn Du'r Arddu, ceir amrywiaeth o blanhigion arctig-alpaidd, rhai ohonynt yn eithriadol o brin. Yr enwocaf o'r rhain yw Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina), sydd yn tyfu ar glogwyni serth yn wynebu tua'r gogledd neu'r gogledd-ddwyrain. Ceir Grug mêl (Calluna vulgaris) a Llus (Vaccinium myrtillus) ar sgri gweddol sefydlog. Mae rhan helaeth o’r Wyddfa yn ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig (ADdGA).

 
Lili'r Wyddfa

Mae Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis) wedi ei henwi ar ôl y mynydd; dim ond yn Eryri y ceir y rhywogaeth yma. Dim ond ar yr Wyddfa ei hun y mae chwilen arall, Nebria nivalis wedi ei darganfod. Ymhlith adar nodweddiadol y llechweddau a'r clogwyni mae Tinwen y Garn, Corhedydd y waun, Mwyalchen y Mynydd, y Frân Goesgoch a'r Gigfran.

Erbyn hyn mae rhan helaeth o'r Wyddfa yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; prynwyd stad 1559 ha (3851 acer) Hafod y Llan ar ochr ddeheuol y mynydd yn 1998 yn dilyn apêl am arian. Bwriedir cymryd camau i adfer y llysdyfiant naturiol. Un agwedd ar hyn yw difa Rhododendron ponticum sydd yn bla ar rai o lechweddau isaf yr Wyddfa.

Amaethyddiaeth a diwydiant golygu

Ceir gweddillion cytiau o Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn ar lechweddau isaf yr Wyddfa, er enghraifft yng Ngwm Dyli ac uwchben Llanberis. Mae amaethyddiaeth wedi bod yn bwysig ers canrifoedd, ond gan nad yw'r Wyddfa yn addas ar gyfer tyfu cnydau, canolbwyntir ar gadw da byw. Defaid yw'r mwyaf cyffredin o'r rhain bellach, ond yn y gorffennol roedd gwartheg yn fwy niferus. Ar un adeg arferid mynd â'r da byw i fyny i'r "hafod" ar y llechweddau uchaf i bori yn ystod yn haf, ac yna eu symud i lawr i'r "hendre" ar dir is dros y gaeaf.[9] Gellir gweld gweddillion nifer o hafotai o'r canol oesoedd ar yr Wyddfa, yn arbennig yng Nghwm Brwynog.[10]

Tua chanol y 18g datblygodd mwyngloddiau copr ar lethrau'r Wyddfa, yn enwedig yng Nghwm Dyli, ar lethrau'r Lliwedd ac o gwmpas Cwm Llan. Y fwyaf o'r rhain oedd y Snowdon, uwchben Llyn Glaslyn. Yn wreiddiol cludid y mwyn copr i lawer at lannau Llyn Cwellyn ar slediau a dynnid gan geffylau. Pan adeiladwyd y ffordd newydd o Lanberis i Ben-y-gwryd, datblygodd Llwybr y Mwynwyr ar gyfer dod â'r mwyn copr i lawr i Ben-y-pass. Gellir gweld llawer o olion y diwydiant yma, yn cynnwys barics y mwynwyr, yng Nghwm Dyli.

Bu hefyd nifer o chwareli llechi ar lethrau'r Wyddfa, er enghraifft uwchlaw Llanberis, ger Rhyd Ddu ac yng Nghwm Llan, megis Chwarel Glanrafon, Chwarel Hafod y Llan a Chwarel Bwlch Cwmllan, er nad oedd yr un o'r rhain ar raddfa fawr iawn ac eithrio Glanrafon.

Yn 1906, agorwyd gorsaf trydan dŵr yng Nghwm Dyli oedd yn cyflenwi trydan i amryw o chwareli a diwydiannau eraill. Mae pibell yn cario dŵr o Lyn Llydaw i'r orsaf drydan.

Dringo'r Wyddfa golygu

 
Prif gribau'r Wyddfa a'r llwybrau i'r copa.

Yr Wyddfa yw mynydd mwyaf poblogaidd Cymru gan ddringwyr, gyda tua 350,000 o bobl yn cerdded i'r copa bob blwyddyn. Gall fod yn beryglus mewn tywydd drwg, pan mae rhew ac eira, neu os yw'r dringwr heb esgidiau addas. Pur anaml y mae blwyddyn yn mynd heibio heb o leiaf un damwain angheuol ar yr Wyddfa. Yn nechrau Chwefror 2009, bu farw pedwar o bobl ar y mynydd mewn cyfnod o wyth diwrnod.[11]

Y cofnod cyntaf am rywyn yn dringo'r Wyddfa oedd pan gyrhaeddodd y llysieuwr Thomas Johnson y copa gyda chymorth bachgen fel tywysydd yn 1639. Mae Thomas Pennant, yn sôn am Edward I, brenin Lloegr wedi iddo feddiannu Gwynedd:

no sooner had Edward effected his conquest, than he held a triumphal fair upon this our chief of montains; and adjourned to finish the joy of his victory, by solemn tournaments on the plains of Nefyn. [12]

Fodd bynnag, mae'n debyg, os gwir yr hanes o gwbl, mai ar y llethrau isaf y bu hyn. Dringodd Pennant y mynydd ei hun yn 1773, a gwnaeth ei ddisgrifiadau yn Tour in Wales a Journey to Snowdon lawer i boblogeiddio'r mynydd. Yr arferiad yn ystod y 19g oedd defnyddio tywysydd i ddangos y ffordd i'r copa, a bu cryn nifer o ddynion a bechgyn lleol yn gweithio fel tywysyddion. Y llwybr o Lyn Cwellyn oedd y mwyaf poblogaidd yn y cyfnod cynnar.

Erbyn hyn mae tua 350,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, ac mae erydu yn broblem ar nifer o'r llwybrau. Yn rhannol oherwydd y nifer fawr o bobl sy'n dringo'r Wyddfa, ceir damweiniau yma bob blwyddyn, a damweiniau angheuol bron bob blwyddyn. Gall y mynydd fod yn beryglus yn y gaeaf pan mae eira a rhew yn gorwedd, ac i ddringo Crib Goch, er enghraifft, mewn eira rhaid wrth yr offer angenrheidiol a phrofiad o'u defnyddio. Yn y gorffennol bu nifer o ddamweiniau angheuol ar ran uchaf Llwybr Llanberis yn y gaeaf; pan fo eira yn gorchuddio'r llwybr roedd cerddwyr yn dueddol i ddilyn y rheilffordd, sy'n arwain hebio ymyl Clogwyn Coch. Gellir cael rhew yma, gyda'r canlyniad fod cerddwyr yn llithro dros ymyl y dibyn; er enghraifft lladdwyd tri bachgen ysgol fel hyn yn 1972. Erbyn hyn mae arwyddion yn rhybuddio cerddwyr i gadw at y llwybr yn hytrach na dilyn y rheilffordd. Tim Achub Mynydd Llanberis sy'n gyfrifol am ddelio ag unrhyw argyfyngau ar yr Wyddfa.

Fel rheol mae cyrraedd y copa a dychwelyd yn cymryd 4 neu 5 awr, ond mae rhedwyr ym medru gwneud y daith mewn llawer llai o amser. Cynhelir Ras yr Wyddfa yn flynyddol o bentref Llanberis i gopa'r Wyddfa ac yn ôl, a'r record ar hyn o bryd yw 1 awr 2 funud a 29 eiliad gan Kenny Stuart o Keswick yn 1985. Y record i gopa'r Wyddfa yw 39 munud a 47 eiliad gan Robin Bryson o Iwerddon.

Llwybrau i'r copa golygu

Mae cryn amrywiaeth o lwybrau i ben yr Wyddfa, gan gynnwys nifer yn cychwyn o Pen-y-pass. Dyma rai o'r prif lwybrau:

Llwybr y Mwynwyr golygu

 
Maen yn nodi'r gyffordd rhwng llwybr Llanberis a llwybr Pyg

Hwn yw'r llwybr mwyaf poblogaidd ym marn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Yn wreiddiol roedd yn cael ei ddefnyddio i gludo'r mwyn copr o'r cloddfeydd yn yr ardal. Mae'n cychwyn o'r maes parcio ym Mhen-y-pass, ac yn mynd heibio Llyn Teyrn ac yna'n defnyddio'r cob i groesi Llyn Llydaw cyn dringo at Lyn Glaslyn. O'r llyn yma mae'n esgyn yn serth i Fwlch Glas, gyda Llwybr Pen y Gwryd yn ymuno ag ef ar y ffordd. O Fwlch Glas mae tua 300 troedfedd arall i gopa'r Wyddfa. Gosodwyd maen yma i nodi'r llwybr ar y ffordd yn ôl.

Llwybr Pen y Gwryd golygu

Mae'r llwybr yma hefyd yn cychwyn o faes parcio Pen-y-pass, gan gadw i dir uwch na Llwybr y Mwynwyr wrth esgyn i Fwlch-y-moch. Dylid cymryd y llwybr ar y chwith pan mae'n fforchio; mae'r llwybr ar y dde yn arwain at Grib Goch. Mae'r llwybr yn awr yn mynd ar hyd llethrau isaf y Grib Goch cyn ymuno â Llwybr y Mwynwyr i esgyn yn serth i Fwlch Glas.

Crib Goch golygu

 
Y Lliwedd o'r copa

Yn lle mynd yn syth tua'r copa o Ben-y-pass, gellir dringo'r Grib Goch gyntaf ac yna mynd ymlaen dros Garnedd Ugain i gopa'r Wyddfa. Gellir cyrraedd y Grib Goch trwy gychwyn ar hyd Llwybr Pen-y-Gwryd ac yna cadw i'r dde pan mae'r llwybr yn fforchio. Y llwybr dros y Grib Goch yw'r anoddaf o'r llwybrau arferol i gopa'r Wyddfa, a rhaid cymryd gofal mawr mewn tywydd drwg yn arbennig pan fydd hi'n wyntog.

Y Lliwedd golygu

Gellir dilyn Llwybr y Mwynwyr o faes parcio Pen-y-pass ac yna cymryd y llwybr sy'n fforchio i'r chwith o'r llwybr yma i gyfeiriad copa Y Lliwedd. Gellir wedyn fynd dros y bwlch i gopa'r Wyddfa.

Llwybr Llyn Cwellyn golygu

Llwybr yn cychwyn ger talcen hostel ieuenctid y Snowdon Ranger ar lan Llyn Cwellyn ac yn arwain ar hyd llethrau isaf Moel Cynghorion i gyrraedd Bwlch Cwm Brwynog. Oddi yno mae'n esgyn y grib uwchben Clogwyn Du'r Arddu, gyda Llyn Ffynnon-y-gwas islaw, i Fwlch Glas ac ymlaen i'r copa.

Gelwir y llwybr yn llwybr y Snowdon Ranger yn Saesneg. Dyma'r enw a ddefnyddiai John Morton, un o'r tywysyddion a arweiniai ymwelwyr i ben yr Wyddfa, amdano ei hun. Arferai fyw yn yr adeilad sy'n awr yn hostel ieuenctid.

Llwybr Rhyd Ddu golygu

Gelwir y llwybr yma weithiau yn Llwybr Beddgelert. Gellir cychwyn y llwybr o ddau fan, un ai o'r maes parcio ym mhentref Rhyd Ddu neu yn is i lawr y ffordd i gyfeiriad Beddgelert. Mae'n arwain heibio Cwm Caregog i gyrraedd crib Llechog, gyda golygfeydd o Gwm Clogwyn, cyn esgyn i Fwlch Main ac oddi yno i'r copa. Ystyrir y llwybr yma yn un cymharol hawdd.

Llwybr Watkin golygu

Yn cychwyn ger Pont Bethania (SH628506), gerllaw Beddgelert. Gan fod y man cychwyn yn is na man cychwyn y llwybrau eraill, dim ond 60 m uwch lefel y môr, mae mwy o ddringo i'w wneud, ac mae rhan olaf y llwybr ychydig yn anodd, ond mae'n un o'r llwybrau mwyaf diddorol. Mae'r llwybr yn dilyn Afon Cwm Llan, heibio Craig Gladstone, yna'n esgyn i Gwm Ciliau, rhwng y Lliwedd a chopa'r Wyddfa.

Enwyd y llwybr hwn ar ôl Syr Edward Watkin, gŵr busnes ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol. Trefnodd ef i'r Prif Weinidog ar y pryd, William Ewart Gladstone, agor y llwybr yn swyddogol yn 1892. Daeth tyrfa o dros 2,000 o bobl at Graig Gladstone i wrando arno yn areithio.

Llwybr Llanberis golygu

 
Caffi Hanner-ffordd ar Lwybr Llanberis

Prif erthygl:Llwybr Llanberis Mae'r llwybr yma, sy'n cychwyn ger Gwesty'r Victoria yn y pentref, yn rhedeg ochr yn ochr â thrac y trên bach y rhan fwyaf o'r ffordd. Dyma'r llwybr hiraf, ond gan nad yw mor serth a'r gweddill, mae'n un o'r llwybrau hawddaf. Gall fod yn beryglus pan fo rhew ac eira, pan mae'n eithriadol o bwysig cadw at y llwybr ei hun uwchben gorsaf Clogwyn yn hytrach na dilyn y rheilffordd. Dyma'r unig lwybr lle gellir cael rhywbeth i'w fwyta neu yfed ar y ffordd, gan fod caffi tua hanner y ffordd i fyny.

Llwybrau eraill golygu

Heblaw y llwybrau yma, mae nifer o ddulliau eraill o gyrraedd y copa. Er enghraifft gellir cyrraedd Bwlch Cwm Llan, rhwng yr Wyddfa a'r Aran, o lwybr Rhyd Ddu neu Lwybr Watkin, ac yna dringo crib Allt Maen-deryn i'r copa. Gellir hefyd ddilyn y llwybr i Gwm Glas o Fwlch Llanberis ac yna dringo'r llechwedd serth i'r grib uwchben. Dewis arall fyddai dringo Moel Eilio o Lanberis ac yna dilyn y grib i ymuno â Llwybr Llyn Cwellyn ger Bwlch Cwm Brwynog.

Taith ychydig yn hirach yw Pedol yr Wyddfa, sy'n dechrau o Ben y Pas, yn cynnwys Y Grib Goch a'r Lliwedd yn ogystal a'r Wyddfa ei hun. Taith hirach fyth yw'r "Ffigwr 8", sef dros Grib Goch i gopa'r Wyddfa, i lawr ar hyd Llwybr Rhyd Ddu, yna wedi cyrraedd y pentref, dilyn y briffordd am 2.5 km i fan cychwyn Llwybr Llyn Cwellyn. Wedi dychwelyd i gopa'r Wyddfa, gellir dychwelyd i Ben-y-pass dros y Lliwedd.

Dringo creigiau golygu

 
Clogwyn Du'r Arddu a Llyn Du'r Arddu

Mae Clogwyn Du'r Arddu a'r Lliwedd wedi bod o bwysigrwydd neilltuol yn hanes datblygiad dringo yn Eryri am ym Mhrydain yn gyffredinol. Ar Glogwyn Du'r Arddu y cofnodir dringo creigiau, yn hytrach na cherdded mynyddoedd, am y tro cyntaf yn 1798 pan fu'r Parchedig Peter Williams a'r Parchedig William Bingley yn dringo Clogwyn Du'r Arddu wrth chwilio am blanhigion arctig-alpaidd. Mae'r clogwyn yma wedi parhau'n boblogaidd dros y blynyddoedd, ac ymhlith y dringwyr a gysylltir ag ef mae Jack Longland, Ron James, Colin Kirkus, Joe Brown, Don Whillans a Johnny Dawes.

Roedd y clogwyni ar y Lliwedd hefyd yn boblogaidd iawn yn y cyfnod cynnat. Lliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ar Ynysoedd Prydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews.

Rheilffordd yr Wyddfa golygu

 
Trên bach yr Wyddfa yn dynesu at orsaf Hebron, ar draws Gwaun Cwm Brwynog. Saif adfeilion Capel Hebron i'r dde o'r orsaf.

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn rheilffordd fach yn defnyddio system rhac a phiniwn, sy'n rhedeg ar drac lled cul o bentref Llanberis i gopa'r Wyddfa. Y rheilffordd yma, sydd yn 4 milltir 1188 llathen (7.524 km) o hyd, yw'r unig reilffordd rac ym Mhrydain. Mae'n cychwyn yn Llanberis 108 m (353 troedfedd) uwch lefel y môr, ac yn aros yng ngorsafoedd Rhaeadr, Hebron, Hanner Ffordd a Clogwyn cyn cyrraedd y copa. Os yw'r tywydd yn ddrwg, dim ond cyn belled â Chlogwyn y bydd y trên yn mynd.

Adeiladwyd y rheilffordd rhwng Rhagfyr 1894 a Chwefror 1896, ar gost o £76,000. Agorwyd y rheilffordd i'r cyhoedd ar ddydd Llun, 6 Ebrill. Bu damwain ar y diwrnod cyntaf, pan neidiodd y trên oddi ar y trac. Neidiodd y gyrrwr a'r taniwr oddi ar y trên wedi iddynt sylweddoli nad oedd ganddynt reolaeth arni. Gwelodd un o'r teithwyr, Ellis Roberts o Lanberis, y ddau yn neidio, a neidiodd yntau. Clwyfwyd ef yn ddifrifol, a bu farw o ganlyniad. Dyma'r unig ddamwain angheuol yn hanes y rheilffordd yma.

Tra bod yr adeilad newydd ar y copa yn cael ei adeiladu, dim ond cyn belled â gorsaf Clogwyn y mae'r trên yn mynd. Disgwylir y bydd teithiau i'r copa yn ail-ddechrau yng ngwanwyn 2008.

Adeiladau ar y copa golygu

 
Gorffen adeiladu Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa, Mai 2008

Codwyd yr adeilad cyntaf ar y copa yn 1820, pan adeiladodd tywysydd o’r enw Lloyd gwt cerrig. Ychydig yn ddiweddarach, yn 1838, cafodd mwyngloddwyr copr di-waith o’r enw William Morris y syniad o werthu bwyd a diod o'r cwt hwn. Erbyn 1847, roedd nifer o gytiau pren ar y copa, un yn perthyn i Westy’r Victoria, Llanberis, ac un arall i Westy Dolbadarn.

Ail-adeiladwyd y rhain nifer o weithiau, ond erbyn y 1930au roeddent mewn cyflwr gwael, a phenderfynwyd codi un adeilad i gymryd eu lle. Cynlluniwyd yr adeilad newydd gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis, ac agorwyd ef yn 1935.

Oherwydd y tywydd garw ar gopa'r Wyddfa, dirywiodd cyflwr yr adeilad yma hefyd dros y blynyddoedd. Un disgrifiad enwog ohono oedd un y Tywysog Siarl fel "y slym uchaf yng Nghymru". Cytunwyd i adeiladu adeilad newydd i gymeryd ei le, a dechreuwyd ar y gwaith o ddymchwel yr hen adeilad yn 2006. Disgwylir i'r adeilad newydd, sy'n dwyn yr enw "Hafod Eryri", gostio £8.3 miliwn. Mae rhan o'r arian yma yn dod mewn grantiau o'r Undeb Ewropeaidd ar yr amod ei fod yn cael ei orffen erbyn haf 2008. Disgwylid i'r adeilad ei hun fod wedi ei orffen erbyn hydref 2007; yna wedi seibiant dros y gaeaf, bwriedid cynnal yr agoriad swyddogol yng ngwanwyn 2008. Bu raid gohirio yr agoriad swyddogol oherwydd tywydd drwg, a chynhaliwyd ef ym mis Mehefin 2009 gan Rhodri Morgan.

 
Tu fewn Hafod Eryri

Ar yr hen adeilad roedd llechen gyda'r cwpled – "Grwydryn, aros ennyd; ystyr ryfeddol waith Duw a'th daith fer ar y ddaear hon". Cyfansoddodd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas gwpled newydd i'r adeilad newydd "Copa'r Wyddfa: yr ydych chwi yma, yn nes at y nefoedd".[13]. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009, dyfarnwyd y Fedal Aur am Bensaernïaeth i benseiri'r ganolfan.

Llên a thraddodiadau golygu

 
Mae nifer o chwedlau am y Tylwyth Teg yn gysylltiedig â'r ardal o gwmpas Llyn Dwythwch.

Ceir llawer o chwedlau gwerin am y Wyddfa, nifer ohonynt yn ymwneud â'r Brenin Arthur. Dywedir i Rhita Gawr, oedd â mantell wedi ei gwneud o farfau brenhinoedd, hawlio barf Arthur. Gwrthododd Arthur, a bu ymladdfa rhyngddynt ar yr Wyddfa. Lladdwyd Rhita, a chladdwyd ef dan garnedd ar y copa gan filwyr Arthur, gan roi ei enw i'r mynydd.

Yn ôl chwedl arall, ar yr Wyddfa yr ymladdodd Arthur ei frwydr olaf; bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef ger Bwlch y Saethau, rhwng copa'r Wyddfa a'r Lliwedd. Dywedir bod ei filwyr yn cysgu yn Ogof Arthur mewn clogwyn ar y Lliwedd.

Ceir llawr o chwedlau am y Tylwyth Teg ar lethrau'r Wyddfa hefyd, yn enwedig o gwmpas rhai o'r llynnoedd, megis Llyn Dwythwch. Dywedid na fyddai trigolion Gwaun Cwm Brwynog yn gadael i'w plant fynd yn agos at y llyn, rhag iddynt gael eu cipio gan y Tylwyth.

Heb fod ymhell o Lyn Du'r Arddu mae maen mawr o'r enw Maen Du'r Arddu. Mae traddodiad y bydd y sawl sy'n cysgu noson ar, neu dan, y maen yma un ai'n fardd neu'n wallgof erbyn y bore. Fersiwn arall yw os bydd dau berson yn gwneud hynny, y bydd un yn fardd a'r llall yn wallgof.

Hen bennill am yr Wyddfa:

'Hawdd yw dwedyd, "Dacw'r Wyddfa", —
Ni eir trosti ond yn ara';
Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur,
Beri i'r afiach gymryd cysur'.

(Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 10)

Yn y rhigwm Saesneg o ddiwedd y 18g, mae'r Wyddfa (heb ei phobl!) yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Gweler hefyd golygu

Nodiadau golygu

  1. Davies, John (2008). The Welsh Academy Encyclopedia of Wales. Cardiff: The University of Wales Press. t. 820. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  2. "SNPA - Visitor Monitoring Report, 2019" (PDF).
  3. "Visits to tourist attractions: 2018". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-02-18.
  4. Fel a geir yma
  5. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
  6. (Saesneg)Snow 'disappears' from Snowdon'
  7. G, Ioan (2022-11-16). "Cymeradwyo Egwyddorion Enwau Lleoedd er mwyn diogelu a dathlu enwau Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol". Parc Cenedlaethol Eryri. Cyrchwyd 2022-11-18.
  8. Jones tt.32-3
  9. Thomas Pennant Tours in Wales Cyf. II tud. 325
  10. Williams, Rol, Pobol tu ucha'r giât tt. 13-14
  11. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7890000/newsid_7890100/7890167.stm Marw ar y mynydd: Rhybudd (BBC Cymru)
  12. Thomas Pennant Tours in Wales Cyf. II tud. 336
  13. Y Cymro, 13,7,2007

Llyfryddiaeth golygu

  • Bick, David, The old copper mines of Snowdonia (Pound House, 1982) ISBN 0-906885-03-5
  • Jones, Robert, The complete guide to Snowdon = Yr Wyddfa (Gwasg Carreg Gwalch, 1992) ISBN 0863812228
  • Pardoe, H. S. a B.A. Thomas Planhigion yr Wyddfa ers y rhewlifau: hanes llysieuol (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1992) ISBN 0720003660
  • Thomas, Dafydd Whiteside, Chwedlau a choelion godre'r Wyddfa (Gwasg Gwynedd, 1998) ISBN 0860741559
  • Williams, Rol, Heibio Hebron: hanes trên fach yr Wyddfa (Cyhoeddiadau Mei, 1987) ISBN 0905775570
  • Williams, Rol, Pobol tu ucha'r giât: hanes hen deuluoedd Gwaun Cwm Brwynog a Chapel Hebron (Gwasg Pantycelyn, 2001) ISBN 1-903314-06-2

Dolenni allanol golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)