Yr Ysgwrn

cartref Hedd Wyn, yn Nhrawsfynydd, Gwynedd

Ffermdy a'i leolir tua milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd, Gwynedd, ydy Yr Ysgwrn. Mae'n dyddyn sydd wedi ei gosod ar ddau lawr â tô llechi, arferai eiddew orchuddio'r waliau.[1] Credir ei fod yn dyddio'n ôl i 1519.[2]

Yr Ysgwrn
Mathffermdy, adeilad amgueddfa Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHedd Wyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1519 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrawsfynydd Edit this on Wikidata
SirTrawsfynydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr263.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8942°N 3.89974°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Y Gadair Ddu

Dyma hen gartref y bardd enwog Hedd Wyn, a'r teulu yw'r perchnogion hyd heddiw. Mae'r Gadair Ddu (cadair enwog yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw, 1917) yn cael ei chadw yn y parlwr. Cyrhaeddodd y Gadair ar dren o Lerpwl, gyda lliain du drosti.

Heddiw golygu

Mae'r Ysgwrn bellach yn adeilad rhestredig[3] Nid oes trydan na dŵr nac ystafell ymolchi yn y tŷ.[4] ym meddiant Parc Cenedlaethol Eryri.

Gofalodd Gerald Williams, nai Hedd Wyn ar ôl y ffermdy a'r tir am flynyddoedd cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r Parc. Am nifer o flynyddoedd roedd yn tywys ymwelwyr o gwmpas y tŷ lle dangoswyd holl gadeiriau Hedd Wyn, chwech i gyd. Ni dderbyniodd unrhyw dâl am dywys yr ymwelwyr ac nid oedd oriau agor ffurfiol, ond roedd ymwelwyr wastad yn cael eu croesawu.[5] Ganwyd Gerald yn Yr Ysgwrn yn 1929 a bu farw yn 92 mlwydd oed, yn 2021.[6]

Ers Mawrth 2012 y perchnogion newydd yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n gofalu am y cartref a'r ganolfan a chaffi, rhyw gan metr islaw'r ty. Gobeithiant ddatblygu'r ffermdy yn Nhrawsfynydd yn ganolfan i adrodd hanes Hedd Wyn ac erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.[7]

Ffilmio golygu

Ffilmiwyd rhan o'r ffilm Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn. Cafodd y ffilm ei henwebu ar gyfer Oscar.

Oriel golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Postcard of Hedd Wyn's home, 'Yr Ysgwrn', Trawsfynydd, and bardic chairs, 1918, Casglu'r Tlysau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 2009-11-24.
  2.  Hwb fawr i gynllun Yr Ysgwrn. BBC (16 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 19 Tachwedd 2012.
  3. "Nodweddion Tirwedd Hanesyddol: Trawsfynydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-01. Cyrchwyd 2009-11-24.
  4. Pryder am gartre bardd, BBC, 31 Gorffennaf 2009
  5. Keeper of Eisteddfod Icon Fears for Future, Daily Post, 30 Gorffennaf 2009
  6. Gerald Williams, Ceidwad Yr Ysgwrn, wedi marw yn 92 , Golwg360, 11 Mehefin 2021.
  7. http://www.alunffredjones.plaidcymru.org/news/2012/03/01/alun-ffred-yn-croesawu-achub-yr-ysgwrn/[dolen marw]