Ysbyty Glan Clwyd

Ysbyty cyffredinol ger Bodelwyddan, Sir Ddinbych yw Ysbyty Glan Clwyd. Hyd 2009 lleolwyd pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych yno. Erbyn hyn mae'n un o dri ysbyty cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n gwasanaethu ardal canolbarth gogledd Cymru, sef Sir Conwy a Sir Ddinbych yn bennaf. Cyfeiria'r enw at Afon Clwyd.

Ysbyty Glan Clwyd
Mathysbyty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1980 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Rhyl Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.27°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Edit this on Wikidata
Map
Yr uned gancr ar safle Ysbyty Glan Clwyd

Agorwyd yr ysbyty yn 1980. Mae'r adrannau a gwasanaethau yn cynnwys Damweiniau ac Argyfyngau, patholeg, delweddu, obstetreg, iechyd meddwl, pediatreg, oncoleg, a ffisiotherapi.[1]

Ceir gwasanaeth radio ar gyfer yr ysbyty, sef Radio Ysbyty Glan Clwyd,[2] sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y cyn Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych
  2. "Radio Ysbyty Glan Clwyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-19. Cyrchwyd 2010-11-03.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato