Ysgawen
Aeron yr ysgawen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Dipsacales
Teulu: Adoxaceae
Genws: Sambucus
Rhywogaeth: S. nigra
Enw deuenwol
Sambucus nigra
L.

Coeden yw'r ysgawen (Lladin: Sambucus nigra; Saesneg: Elder). Coeden â chryn dipyn o goelion (neu ofergoelion) yn perthyn iddi; credir er enghraifft ei bod yn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Defnyddid ei blodau, sy'n tyfu ym Mehefin, i wella llais cryg neu annwyd cas.

Mae'r ffrwyth yn edrych fel grawnwin bychain ac yn llawn o rinweddau.

Perthynas â phobl golygu

Wrth ymweld â Chymru yn 2010 dangosodd Mathilde Becam, Llydawes ieuanc o Lampaul-Guillimiau, sut i wneud sifflet, neu chwiban o frigyn ysgaw sy’n gwneud sŵn tebyg i gorn Llydewig. Tynnwch y canol allan yn ofalus gyda chŷn a gwnewch dwll tua chentimedr o un pen. Clymwch ddarn o fag plastic tenau dros y pen hwnnw a lleisiwch drwy’r twll. Mae’r sŵn yn rhyfeddol.[1]

Rhinweddau meddygol golygu

Dylid casglu wyth neu ddeg o ddail y 'sgawen a'u torri'n fân a'u berwi am ddeng munud mewn hanner peint o ddŵr, gyda mêl i'w felysu os oes angen. Mae'n ddull gwych a naturiol i glirio'r croen o unrhyw smotiau ac amhuredd ac i lanhau'r perfedd.

Gallwch ddefnyddio blodau'r ysgwaen (tuag owns) mewn peint o ddŵr a'u trwytho am ddeng munud, ei hidlo a'i yfed deirgwaith y dydd at gatár, bronceitis, y frech goch, gwynegon (neu gricmala) dolur gwddw neu at gowt.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bwletin Llên Natur rhifyn 30
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato