Ysgol Dinas Brân


Ysgol Uwchradd Ddwyieithog yn Llangollen, Sir Ddinbych ydy Ysgol Dinas Brân; saif yn Nyffryn Edeyrnion. Yr enw gwreiddiol oedd "Ysgol Ramadeg Llangollen". Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer myfyrwyr 11 i 18 oed a cheir tua 1,200 o ddisgyblion yn yr ysgol. 'Ymdrech a Lwydda' ydy arwyddair yr ysgol. Ceir yma ffrwd Gymraeg drwy'r ysgol. Mae'r dalgylch yn eithriadol o fawr ac mae'n cynnwys Corwen, Y Waun, Llangollen a Dyffryn Ceiriog. Fel canlyniad i hyn, daw oddeutu 75% o'r disgyblion i'r ysgol mewn bysiau.

Ysgol Dinas Brân
Neuadd yr ysgol, 2010
Arwyddair Ymdrech a Lwydda
Cyfrwng iaith Dwyieithog
Pennaeth Mrs Alison Duffy
Dirprwy Bennaethiaid Mark Hatch
Dafydd Morris
Lleoliad Llangollen, Cymru
AALl Cyngor Sir Ddinbych
Disgyblion 1,200
Rhyw Y ddau ryw
Oedrannau 11–18
Lliwiau Du a agwyn
Gwefan http://www.dinasbran.co.uk/

Agorwyd neuadd chwaraeon newydd yn 2000 a nifer o adeiladau eraill dros y blynyddoedd gan gynnwys ystafell newydd i'r chweched dosbarth ac adran ieithoedd newydd yn 2006. Ers 2008 mae 100% o'r ymgeiswyr Lefel A wedi llwyddo, sy'n golygu fod yr ysgol ymhlith yr uchaf yng Nghymru.

Drama-gerdd mewn sioe ffasiynau, 2009

Y brifathrawes ydy Mrs Alison Duffy.

Daw enw'r ysgol o gastell cyfagos, sef: Castell Dinas Brân sy'n edrych i lawr ar yr ysgol.

Bandio ysgolion golygu

Rhestrwyd pob ysgol uwchradd yng Nghymru gan y Cynulliad yn Rhagfyr 2011 a daeth yr ysgol yn gydradd 7ed allan o dros 220 o ysgolion; yr unig ysgol yn Sir Ddinbych i gyrraedd Band 1.[1] Mae'r rhestr yn seiliedig ar asesiad o berfformiad ysgolion, 2010-11. Band 1 yw'r band gorau a Band 5 yw'r gwanaf. Mae'r sgôr yn cael ei haddasu er mwyn ystyried nifer y plant sy'n cael cinio am ddim a materion tebyg.

Cyfeiriadau golygu

Dolennau allanol golygu